Pili-palod Welshmoor
Dewch i gerdded yn Welshmoor, lle sy’n baradwys gudd i fywyd gwyllt. Dros y blynyddoedd mae dros 25 o wahanol rywogaethau o bili-palod prin, sy’n cael eu gwarchod, wedi eu gweld yn yr ardal hon. Dyma un i'r mannau mwyaf dibynadwy yn Ewrop os ydych am weld Britheg y Gors, pili-pala hynod o brin, a'r Brithribin Gwyrdd, sydd yr un mor hardd, ond yn fwy cyffredin.
Cyngor da ar gyfer eich taith
Byddwch chi'n cerdded drwy gynefin o rostir gwlyb. Gall fod yn gorsiog iawn dan draed ar adegau, felly byddai'n ddoeth i wisgo esgidiau cerdded cryfion neu esgidiau glaw. Does dim llwybrau cerdded pendant yma, er gellir gwneud eich ffordd heb lawer o drafferth drwy ddilyn llwybrau’r defaid a’r anifeiliaid. Gan fod anifeiliaid yn pori yma, cadwch eich cŵn ar dennyn ac o dan reolaeth agos bob amser. Bydd amgylchiadau'r tywydd yn effeithio'n fawr ar eich siawns o weld pili-palod; diwrnodau cynnes a heulog, heb lawer o wynt sy'n ddelfrydol. Mae amseriad eich ymweliad hefyd yn bwysig os ydych am weld rhywogaethau fel Britheg y Gors, sy’ ddim ond yn hedfan am gyfnod byr yn y tymor. Mae rhagor o wybodaeth am yr amser gorau i ymweld ym mhob cam.

Dechrau:
Maes parcio Welshmoor (Cyf Grid SS5194)
1
Gan ddechrau yn yr ardal barcio, cerddwch 100m i'r de at ymyl y rhostir lle mae'r coed yn nodi'r ffin. Chwiliwch ar hyd ymyl y coed a'r prysgwydd am unrhyw bili-palod sy'n mynd heibio.
Cysgod y prysgwydd
Mae'r rhan hon o Welshmoor yn aml yn cael ei chysgodi o'r gwynt sy'n chwythu'n bennaf o'r de-orllewin. Mae'n werth chwilio am bili-palod yn y fan hon rhwng mis Ebrill a Medi gan eu bod nhw'n dilyn ymyl y coed ac yn symud drwy'r bylchau yng nghysgod y prysgwydd ar hyd ymylon y rhostir. Chwiliwch am Fantell Goch, Mantell Paun, Gweirlöyn Brych, Gwyn Blaen Oren, Gwyn Gwythiennau Gwyrddion a Gweirlöyn y Ddôl.
2
Cerddwch o'r ffin tuag i gyfeiriad y Dwyrain-Gogledd-Ddwyrain at y rhostir am 100m. Mae'r ardal hon yn lle da i weld Britheg y Gors.
Lle da i weld Britheg y Gors
Mae'r tir ychydig yn fwy sych yn y lleoliad yma, sy'n golygu ei fod yn lle da i chwilio am Fritheg y Gors. Ar ddiwrnodau cynnes, heulog yn y gwanwyn mae'r larfâu i'w gweld yn torheulo. Chwiliwch am y pili-palod sydd wedi cyrraedd eu llawn dwf, ac yn gallu hedfan, o'r wythnos olaf ym Mai hyd at ganol Mehefin. Mae'r rhaid sydd newydd ddod i'r golwg i'w gweld yn torheulo ar y planhigion isel neu yn casglu neithdar Tresgyl y moch. Mae gwe arbennig y larfâu hefyd i'w gweld yn yr ardal hon ar flodau Tamaid y Cythraul o ganol Awst hyd yr hydref.

3
Nesaf, cerddwch i gyfeiriad y Dwyrain-De-Ddwyrain am 150m at ymyl y rhostir unwaith eto. Chwiliwch am y llecyn agored sy'n rhedeg tu ôl i linell denau o goed. Dyma le da i gael hyd i'r Brithribin Gwyrdd.
Lle da i weld y Brithribin Gwyrdd
Mae'r llecyn agored sydd rhwng y ddwy linell o goed yn mynd yn fwy cul wrth i chi gerdded ar ei hyd tuag at y dwyrain. Mae'r ardal gysgodol hon yn creu microhinsawdd, ac yn aml yn teimlo gradd neu ddwy yn gynhesach nag ardaloedd eraill o Welshmoor, ac mae'r pili-palod yn hoffi hyn. Dyma un o'r lleoliadau lle gallwch fod yn fwyaf sicr o weld Brithribin Gwyrdd. Mae'r pili-palod gwryw yn aml yn eistedd ar y prysgwydd isaf yn aros i'w benywod fynd heibio, ac maent yn aml yn gwrthdaro gyda gwrywod eraill ynglŷn â'u tiriogaeth sy'n arwain at frwydr fawr yn yr awyr. Mae'r pili-pala bach hudolus hwn i'w weld yn hedfan o gwmpas o ddiwedd Ebrill hyd at ganol Mehefin.

4
O'r llecyn agored, cerddwch i gyfeiriad y Gogledd-ddwyrain am 125m nes iddi ddechrau dod yn wlyb o dan draed wrth agosáu at nant. Yma cewch weld ffrind gorau'r peillwyr, ysgallen y gors.
Ysgallen y gors
Ysgallen y gors yw un o'r ffynonellau gorau o neithdar o blith holl flodau Prydain, ac felly mae'n bwysig dros ben i beillwyr. Mae ysgall y gors yn blodeuo o ddiwedd Mehefin hyd at fis Medi. Os byddwch yn dod ar ymweliad â Welshmoor i chwilio am bili-palod yn ystod y cyfnod hwn, dylech dreulio ychydig o amser y gwylio'r blodau hyn i weld pa rywogaeth sy'n dod i fwydo arnyn nhw.
5
Nesa, cerddwch tua'r gogledd am 50m i ben y gefnen. Mae'r llwybr yma'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin ar draws y rhostir. Drwy ddilyn y llwybr tua'r gorllewin am 375m cewch eich arwain nôl i'r ardal barcio.
Llwybr y gefnen
Mae'r llwybr hwn ar hyd y gefnen yn arwain yn ôl at yr ardal barcio, ond mae'n werth mynd i archwilio'r ardaloedd sydd bob ochr iddo, yn enwedig ger gwaelod y llethrau wrth yr ardaloedd gwlypach. Mae'r prysgwydd sydd yma'n rhoi cysgod ac mae'r planhigion sy'n blodeuo yn werth eu gweld. O ddiwedd Mai i ddechrau Mehefin, sylwch yn ofalus ar y pryfed sy'n hedfan o gwmpas gan nad yw pethau yn union fel maen nhw'n ymddangos. Edrychwch yn fanwl ar y gacynen, oherwydd nid cacynen yw hi bob tro, ond Gwalchwyfyn gwenynaidd ymyl gul sy'n ei dynwared. Mae angen bod yn lwcus iawn i weld y rhywogaeth hon, ond mae cael ei gweld am y tro cyntaf yn brofiad bythgofiadwy.
Diwedd:
Maes parcio Welshmoor (Cyf Grid SS5194)