Taith gerdded Porthor
Mae’r golygfeydd yn odidog ar hyd yr arfordir garw ar ochr ogleddol Penrhyn Llŷn.
Am ddod â'ch ci?
Er bod croeso i gŵn ar y llwybr cerdded hwn, cofiwch mai dim ond ar y traeth yn ystod misoedd y gaeaf (1 Hydref - 31 Mawrth) y caniateir cŵn ar y traeth.

Start:
Dechrau: Maes parcio Porthor – cyfeiriad grid: SH170293
1
O’r maes parcio, dilynwch yr arwyddbost oren ar hyd y llwybr rhwng y cabanau toiled, ac yna drws glwstwr o goed helyg.
2
Ceir golygfeydd gwych o Borthor i lawr ar eich ochr dde. Ceir yr enw “Whistling Sands” yn Saesneg oherwydd y swn gwichian neu sibrwd a wneir wrth gerdded ar y tywod. Dilynwch y llwybr tan i chi gyrraedd mainc a giât mochyn ar y chwith.
Gorffennol diwydiannol Porthor
Roedd Porthor yn arfer bod yn borthladd prysur, yn mewnforio leim a glo ac yn allforio cynnyrch fferm mes menyn, caws, wyau a da pluog/ dofednod. Dim ond yn ystod yr haf mae’r porthladd yn brysur erbyn hyn, fodd bynnag, lle mae cri gwylanod yn gymysg â chri phobol yn mwynhau ar y traeth.
3
Ewch drwy’r giât mochyn a dilynwch y llwybr sy’n nadreddu ar hyd yr arfordir. Rydym yn adfer y clogwyni ar y dde, gan ddefnyddio chwistrellu o’r awyr i reoli’r rhedyn a chan adfer yr arferiad o bori ar hyd yr arfordir yma.
4
Edrychwch yn ofalus yma; efallai byddwch yn ddigon lwcus i weld morlo, llamhidydd neu hyd yn oed ddolffin oddi ar y lan.
5
Dinas Bach a Dinas Fawr yw’r ddwy ynys ar y dde i chi. Os edrychwch i’r pellter ar hyd yr arfordir, fe welwch Fynydd Anelog yn codi o’i ben o Fôr Iwerddon.
Ynysoedd caerog
Safleoedd caerog oedd ynysoedd Dinas Bach a Dinas Fawr yn ôl pob tebyg yn ystod yr Oes Haearn, 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Maent yn llefydd poblogaidd gyda’r morloi llwyd erbyn hyn.
6
Yn fuan wedi pasio’r ynys gyntaf, fe ddowch at un giât fochyn ac yna un arall yn syth ar ei hôl. Ewch drwy’r ddwy giât, gan ddilyn yr arwyddbost i fyny llethr cymedrol. Edrychwch allan am adar Melyn yr Eithin a Llinosiaid yn bwydo ar hadau’r ysgallen. Mae’r ffensio dwbl rhwng y cae a’r llwybr yn creu coridor i fywyd gwyllt o bob math.
7
Dilynwch yr arwyddbost ar hyd ochrau’r cae i fyny at Carreg. Trowch i’r dde ar ôl mynd drwy’r giât fochyn olaf, a dilynwch yr arwyddbost oren heibio Carreg i’r ffordd. Edrychwch allan am y graig iasbis (jasper) goch drawiadol, oedd yn arfer cael ei chloddio yma yn Carreg. Dilynwch yr arwyddion o amgylch y cae hyd at Carreg.
Man gwylio
Adeiladwyd y twr crwn a welwch o ben y bryn uwchben Fferm Carreg – y fan yma fyddwch chi’n ei gyrraedd yn rhan 7 y daith- fel safle gwylio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd to gwydr crwn arno er mwyn rhoi cysgod i’r gwylwyr wrth iddyn nhw edrych allan am longau’r gelyn ar Fôr Iwerddon.
8
Trowch i’r chwith ar ôl i chi gyrraedd y ffordd. Ar ôl rhyw 650 llath (600m) fe welwch arwyddbost ar gyfer Porthor. Dilynwch y lôn fach yma yn ôl i’r man cychwyn yn y maes parcio.
End:
Diweddu: Maes parcio Porthor – cyfeiriad grid: SH170293