![Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/powis-castle-and-garden/library/autumn/powis-castle-and-garden-autumn-powys-wales-1294060-1.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Rydym wedi cael gwared ar y system archebu yn y rhan fwyaf o leoliadau, ond mae’n rhaid archebu o hyd ar gyfer Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Plas yn Rhiw a Thŷ’r Masnachwr Tuduraidd. Dylech hefyd geisio archebu ar yr adegau prysuraf yng Ngardd Bodnant.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.
Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.
Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.
Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon
Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.