Skip to content

Taith Coed y Ffwrnes a’r Ddôl, Gardd Bodnant

Cymru

Golygfa hydref o Coed y Ffwrnes, Gardd Bodnant, Conwy
Coed y Ffwrnes yng Ngardd Bodnant, Conwy | © National Trust Images/John Miller

Yng nghanol 80 erw Gardd Bodnant, bydd y daith ar ochr bryn trwy Goed y Ffwrnes a’r Ddôl yn eich arwain i fannau uchel ac yn cynnig golygfeydd panoramig.

Man cychwyn

Yr Hen Felin yn y Glyn. Cyfeirnod grid: SH800723

Pa Mor Heriol

Hygyrchedd*

Llwybr llawn

PellterMilltiroedd: 2 (km: 3.2)
Hyd1 awr to 2 awr
Addas i gŵn**
  1. *Mae Gardd Bodnant ar ochr bryn yn Nyffryn Conwy ac mae’r tir yn amrywio ar draws yr 80 erw a’r hygyrchedd yn amrywio. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Mynediad. 

  2. **Croeso i gŵn trwy’r dydd bob dydd o fis Hydref i ddiwedd Mawrth ac ar ddyddiau croesawu cŵn arbennig o 1 Ebrill. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Cyfleusterau.

  • Cyfanswm y rhannau: 6

    Cyfanswm y rhannau: 6

    Man cychwyn

    Yr Hen Felin yn y Glyn. Cyfeirnod grid: SH800723

    Rhan 1

    Gan gychwyn o’r Hen Felin, dilynwch y llwybr sy’n arwain heibio’r ciosg bwyd tuag at ardd y Glyn. Dilynwch y llwybr cyntaf ar y dde i fyny’r bryn dros bompren fach sy’n eich arwain i fyny Llwybr Douglas hir, sydd â choed Ffynidwydd Douglas ar ei hyd. Ewch ymlaen i lannerch ar y copa.

    Rhan 2

    Bydd y llwybr yn dod â chi i lannerch lle gwelwch chi Ddôl y Ffwrnes. Wrth edrych ar draws yr afon fe welwch chi hefyd y beddadail ‘The Poem’ ar ben darn o graig. Oddi yma dilynwch y llwybr sy’n dilyn terfyn y ddôl yn serth i fyny’r bryn trwy lawer o’r coed conwydd tal. Wrth i chi ddal i fynd i fyny’r bryn, mae golygfeydd ar draws yr ardd yn dechrau dod i’r golwg trwy’r coed.

    Rhan 3

    Wrth gyrraedd y copa, mae’r llwybr yn gwastatau a byddwch yn nesu at Lwybr Penjerrick. Ar y naill ochr a’r llall fe welwch rododendron Penjerrick ifanc a rhododendron eraill sydd newydd eu plannu – dewch yn ôl i’w gweld yn aeddfedu yn y blynyddoedd i ddod. Mae llwybr cyfochrog uwch ben y fan hyn yn rhedeg ar hyd copa Bryn y Ffwrnes, ac oddi yno, os gwnewch chi wyro ychydig oddi ar y llwybr, fe welwch Afon Conwy yn llifo trwy’r dyffryn tua’r môr.

    Rhan 4

    Ar y gyffordd nesaf mae’r llwybr yn dolennu yn ôl i lawr y bryn at ochr Sedd y Fonesig. Mae croeso i chi aros ac eistedd yma i fwynhau’r olygfa fendigedig ar draws yr ardd. Oddi yma cewch olygfa o uchder o’r Terasau Eidalaidd enwog ar ochr y dyffryn sydd gyferbyn â chi, a adeiladwyd rhwng 1904 a 1914.

    Golygfa o’r tŷ trwy goed o Fryn y Ffwrnes yng Ngardd Bodnant, Conwy, Cymru.
    Golygfa o’r tŷ o Fryn y Ffwrnes yng Ngardd Bodnant, Conwy | © National Trust Images/John Miller

    Rhan 5

    Daliwch i fynd ar y llwybr heibio Sedd y Fonesig.

    Rhan 6

    Yn ôl wrth gyffordd Llwybr y Ddôl gallwch benderfynu mynd ymlaen tua’r de ar hyd y ddôl ac i lawr i ardal pwll sglefrio’r Pen Pellaf, gan fynd yn ôl trwy’r Glyn Yw a’r Llennyrch (gweler y map). Neu gallwch ddychwelyd y ffordd daethoch chi, i lawr Llwybr Douglas at yr Hen Felin.

    Man gorffen

    Yr Hen Felin yn y Glyn. Cyfeirnod grid: SH800723

    Map llwybr

    Map taith Coed y Ffwrnes a’r Ddôl, Gardd Bodnant
    Map taith Coed y Ffwrnes a’r Ddôl, Gardd Bodnant | © National Trust Images

    Dyna ni, da iawn chi

    Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Bodnant Garden 

Gardd fyd enwog, yn gartref i Gasgliadau Cenedlaethol a Choed Campus.

ger Bae Colwyn, Conwy

Yn hollol agored heddiw
A wooden bridge surrounded by the autumn colours.

Taith Gardd y Gaeaf Bodnant 

Crwydrwch trwy fyd rhyfeddol o liw, gwead ac aroglau ar daith trwy Ardd y Gaeaf. Taith gylchol hawdd addas i’r teulu cyfan ei mwynhau.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 0.25 (km: 0.4) to milltiroedd: 0.5 (km: 0.8)
Gardd y Gaeaf a golygfa o’r Carneddau yng Ngardd Bodnant, Cymru

Taith darganfod natur Castell Penrhyn 

Mwynhewch daith gylchol o gwmpas rhannau llai cyfarwydd o dir y castell wrth i chi ddarganfod amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a natur sy’n cartrefu yma.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Gate from Walled Garden in winter at Penrhyn Castle

Cysylltwch

Gardd Bodnant, Tal-y-Cafn, ger Bae Colwyn, Conwy, LL28 5RE

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cerddwyr yn mwynhau’r golygfeydd o gopa Dinas Emrys, Eryri, Cymru

Bwyta a siopa yng Ngardd Bodnant 

Mwynhewch ddanteithion blasus yng nghaffis Gardd Bodnant drwy’r flwyddyn gron neu prynwch blanhigyn, anrheg neu lyfr ail law cyffrous i fynd adref gyda chi.

Someone holding a bowl of soup with bread on the side

Pethau i'w gweld yng Ngardd Bodnant 

Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant. Mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau planhigion o bob rhan o’r byd.

Visitors pause to admire and photograph the vivid autumn foliage in Bodnant Garden's Acer Glade. Japanese maples display striking shades of green, orange and deep crimson, filling the garden with seasonal colour.

Dod â’ch ci i Ardd Bodnant 

Gydag 80 erw i’w harchwilio, mae taith gerdded at ddant pawb. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn), o ddydd Iau i ddydd Sul o fis Ebrill i fis Medi, a phob dydd o fis Hydref i fis Mawrth. Darganfyddwch fwy am ddod eich ci i Ardd Bodnant.

Dachshund yn gwisgo côt sgwariau porffor, ar dennyn, gyda dail yr hydref ar y glaswellt o’i gwmpas, yng Ngardd Bodnant, Gogledd Cymru

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch.  (Saesneg yn unig)

People climbing on one of the steep sided valleys of Buckstones Moss in the north of the Marsden Moor Estate, West Yorkshire

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â Cotswold Outdoor. Dewch i ganfod sut maent yn ein helpu ni i ofalu am leoedd gwerthfawr a'r gostyngiadau arbennig sydd ar gael i gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

A couple are walking outdoors