Skip to content

Broad Haven South

Cymru

Mae De Aberllydan yn fae tywodlyd eang a hyfryd gyda dŵr gwyrddlas, sy’n wych ar gyfer anturiaethau teuluol. Mwynhewch y clogwyni dramatig wrth i chi gerdded ar hyd llwybr yr arfordir neu ewch drwy’r twyni i Ystâd Stagbwll a Phyllau Lili Bosherston sy’n rhan o Lynnoedd Stagbwll sy’n gyforiog o fywyd gwyllt.

De Aberllydan, Bosherston, Ger Penfro, Sir Benfro, SA71 5DZ

Traeth Broadhaven South o lwybr yr arfordir ar ddiwrnod heulog

Rhybudd pwysig

Yn ystod y cyfnod prysur hwn bydd ein meysydd parcio yn llenwi’n gyflym. Ystyriwch barcio ym maes parcio Deheuol Aberllydan sydd yn llawer iawn mwy.

Cynllunio eich ymweliad

Ymweld Ystâd Stagbwll gyda'ch ci 

Mae Stagbwll a’r ystâd ehangach yn lle sydd wedi ei raddio gan y system bawen. Mae rhagor o wybodaeth am ddod â’ch ci i Stagbwll. Archwiliwch y rhan brydferth hon o’r arfordir gyda’ch cyfaill pedair coes wrth eich ochr.

Cŵn yn rhedeg yn Freshwater West, Sir Benfro

Hygyrchedd yn Stagbwll 

Darllenwch ganllaw hygyrchedd Stagbwll ar fenthyg cerbydau symudedd, llwybrau addas ac awgrymiadau defnyddiol ar symud o gwmpas, cyfleusterau a phethau i’w gweld a’u gwneud.

A photograph of a wheelchair user being pushed along Portstewart Strand.
Two visitors in raincoats exploring the autumnal garden at Hinton Ampner, Hampshire

Ymuno

Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.