Skip to content

Llwybr bywyd gwyllt Stad Stagbwll

Cymru

Ymwelydd ar Lwybr Arfordir Sir Benfro yn Stagbwll
Llwybr Arfordir Sir Benfro yn Stagbwll | © National Trust Images/John Millar

Darganfyddwch rai o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Sir Benfro ar y llwybr bywyd gwyllt arfordirol hwn. Rhyfeddwch at glogwyni calchfaen ag adar môr sy’n bridio, gan gynnwys gwylogod, yn ogystal â thraethau, twyni a llynnoedd dŵr croyw gyda lilis a chyfle i weld dyfrgwn.

Man cychwyn

Maes parcio yng Nghei Stagbwll, cyfeirnod grid: SR990958

Pa Mor Heriol*

Hygyrchedd**

Llwybr llawn

PellterMilltiroedd: 6 (km: 9.6)
Hyd4 awr
Addas i gŵn***
  1. *Tirwedd amrywiol, gan gynnwys traeth, pen clogwyn glaswelltog, llwybrau glan llyn a llawer o risiau. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Tirwedd.

  2. **Llwybrau anwastad gyda thirwedd gymysg a grisiau. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Mynediad.

  3. ***Mae croeso i gŵn ar dennyn. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Cyfleusterau.

Dod o hyd i’r dyfrgwn

Cadwch olwg am y mamaliaid swil hyn ar eich taith gerdded, yn enwedig ar Gam 8. Pont yr Wyth Bwa yw’r lle gorau i’w gweld.

  • Cyfanswm y rhannau: 9

    Cyfanswm y rhannau: 9

    Man cychwyn

    Maes parcio yng Nghei Stagbwll, cyfeirnod grid: SR990958

    Rhan 1

    O faes parcio Cei Stagbwll, dilynwch lwybr yr arfordir tua Barafundle. Cymerwch saib ar gopa’r grisiau i edrych i lawr ar Gei Stagbwll, ac ar y galchfaen yn newid i dywodfaen goch i’r chwith ohonoch.

    Rhan 2

    Wrth gyrraedd Barafundle, ewch i lawr y grisiau i’r tywod. Croeswch y traeth, a dringwch y grisiau drwy’r coetir yn y pen pellaf.

    Ymwelydd yn cael hoe ar lwybr yn Stagbwll i edrych ar draws y traeth ym Mae Barafundle, Sir Benfro, Cymru
    Y traeth ym Mae Barafundle | © National Trust Images/James Dobson

    Rhan 3

    Dilynwch lwybr yr arfordir tua Thrwyn Stagbwll, gan aros i edmygu’r Ffenestri Delltog, y bwâu carreg naturiol oddi tanoch.

    Rhan 4

    Ewch yn eich blaenau ar hyd llwybr yr arfordir, gyda glaswelltir eang Cwningar Stagbwll i’r dde ohonoch. Yn y gwanwyn a’r haf mae’n fôr o flodau gwyllt a phili-palod.

    Rhan 5

    Mae sawl llwybr yn eich tywys i lawr at lannau Llynnoedd Bosherston. Anelwch at arllwysfa’r llyn y tu cefn i Draeth Aber Llydan. Mae’r gwely cyrs ymylol cul yn lle gwych i wylio adar, gydag adar sy’n bridio yn yr haf ac adar y bwn a rhegennod dŵr yn y gaeaf.

    Rhan 6

    Croeswch y bont garreg bitw dros yr arllwysfa a dilynwch lwybr Cangen y Gorllewin tua Bosherston. Gallwch aros yn Bosherston am rywbeth i fwyta ac yfed; fel arall, cadwch at y llwybr.

    Rhan 7

    Croeswch Sarn Bosherston, dringwch dros y clogwyn calchfaen a chroeswch y Sarn Ganol. Dyma’r pyllau lili enwog. Fe welwch y lilis dŵr o fis Mehefin i fis Medi. Dilynwch y llwybr i lawr i’r Bont Welltog.

    Rhan 8

    Peidiwch â chroesi’r Bont Welltog - trowch i’r chwith a dilynwch lwybr y Gangen Ddwyreiniol i fyny i Bont yr Wyth Bwa.

    Pâr o ddyfrgwn yn sbecian uwchben y dŵr ymysg y lilis dŵr yn Stagbwll, Sir Benfro, Cymru.
    Pâr o ddyfrgwn yn Stagbwll | © National Trust Images/Jim Bebbington

    Rhan 9

    Croeswch Bont yr Wyth Bwa, a dilynwch drac y Parc Ceirw yn ôl i Gei Stagbwll.

    Man gorffen

    Maes parcio yng Nghei Stagbwll, cyfeirnod grid: SR990958

    Map llwybr

    Map yn dangos llwybr bywyd gwyllt Stagbwll
    Llwybr bywyd gwyllt Stagbwll | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

    Dyna ni, da iawn chi

    Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Llwybr Pyllau Lili Bosherston â Stad Stagbwll 

Os hoffech daith gerdded sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn, ewch ar hyd llwybr Pyllau Lili Bosherston â Stad Stagbwll, lle gallwch hefyd grwydro twyni a phyllau Cwm Mere Pool y tu ôl i draeth Aber Llydan.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Cangen orllewinol Llyn Bosherston, Sir Benfro

Llwybr cyfrinachau Llys Stagbwll 

Dysgwch am hanes y teulu Cawdor a mwynhau golygfeydd godidog ar lwybr cyfrinachau Llys Stagbwll.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Golygfa o’r Bont Wyth Bwa dros y Llyn Pysgod yn Stagbwll

Cysylltwch

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

A young woman in winter clothing looking over a landscape of hills with the sun setting

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Walkers on Corn Du mountain, south west of Pen y Fan in the Bannau Brycheiniog National Park

Cotswold Outdoor: ein hunig bartner cerdded 

Dysgwch ragor am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein hunig bartner cerdded. (Saesneg yn unig)

A couple are walking outdoors

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Two female visitors standing on the rocks at Giant's Causeway, County Antrim

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.

Gwylio bywyd gwyllt â Stad Stagbwll 

Mae Stagbwll yn gartref i bob math o greaduriaid, o’r dyfrgwn enwog i nythfa fwyaf Cymru o ystlumod pedol mwyaf.

Elyrch ar Lynnau Stagbwll , Sir Benfro

Bwyta â Stad Stagbwll 

Mwynhewch ffefrynnau ffein yn Nhŷ Te’r Tŷ Cychod a golygfeydd godidog o Gei Stagbwll.

Ystafell de’r Tŷ Cychod yn edrych dros Gei Stagbwll, Sir Benfro.

Gweithgareddau awyr agored â Stad Stagbwll 

Mae awyr iach Stagbwll yn siŵr o roi gwynt yn eich hwyliau. Mae angen natur ar bawb, ac mae cyfoeth ar gael yn Stagbwll.

Ymwelwyr yn sefyll ar ben clogwyn yn edrych dros Fae Barafundle, Stagbwll