Llwybr yr Ystâd yn Dolaucothi
Cymru
Dilynwch y gylchdaith hon i bwynt uchaf Ystâd Dolaucothi yn Sir Gâr. Mwynhewch y golygfeydd o Afon Cothi, Mwyngloddiau Aur Dolaucothi a phentref Pumsaint, cyn dychwelyd ar hyd hen reilffordd. Fe allech weld gwiwer goch neu fele’r coed yn y coetir.
Eiddo ger
DolaucothiMan cychwyn
Maes parcio Coetir Dolaucothi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cyfeirnod grid: SN662403Gwybodaeth am y Llwybr
*Cymysgedd o lwybrau, traciau a lonydd gyda dringfa a disgyniad serth. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Tirwedd.
**Mae rhan gyntaf y llwybr yn addas i gadeiriau olwyn, hyd at Gam 3 ar y map. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Mynediad.
***Mae croeso i gŵn ar dennyn. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Cyfleusterau.
Mwy yn agos i’r man hwn
Llwybr coetir yn Dolaucothi
Cerddwch drwy goetiroedd hyfryd, gan ddilyn llwybrau a ddefnyddiwyd ‘slawer dydd gan geffylau’n llusgo pren. Darganfyddwch hanes Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, pentref Pumsaint a’r hen blas wrth fynd.

Llwybr Ffordd y Mwynwyr yn Dolaucothi
Profwch hanes ar y llwybr cymedrol hwn yn Nolaucothi, lle byddwch yn cerdded yn ôl traed cloddwyr aur drwy’r oesoedd.

Llwybr y parcdir yn Dolaucothi
Crwydrwch y parcdir o gwmpas Dolaucothi ar y daith gerdded rwydd hon, gan fwynhau tiroedd y plasty a llwybrau glan afon, gyda chlychau’r gog yn y gwanwyn a ffyngau yn yr hydref.

Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Dolaucothi
Ewch i wisgo eich bŵts a darganfod unig Fwynglawdd Aur Rhufeinig hysbys y DU.

Ymweld â'r ystâd yn Nolaucothi
Gyda dros 2,500 erw o ystâd, coetir, ffermydd a pharcdir i’w darganfod, mae cymaint mwy i Ddolaucothi yn Sir Gâr na’r mwyngloddiau Rhufeinig.

Ymweld â Dolaucothi gyda’ch ci
Mae gan Ddolaucothi sgôr dwy bawen. Mae ymweliad â Dolaucothi yn gyfeillgar i gŵn gyda milltiroedd o lwybrau cerdded i’w mwynhau ar draws yr ystâd, mae ‘na leoliadau arbennig i chi a’ch ci eu darganfod.

Walking in Wales
Explore wide open landscapes, gentler coastal strolls or energetic hikes for something a little more challenging. We've rounded up some of the best places to walk in Wales.


