Llwybr coetir yn Dolaucothi
Cymru
Mae’r gylchdaith gymedrol hon sy’n dilyn arwyddion glas yn dringo drwy goetiroedd hyfryd Sir Gâr, lle gallech fod yn ddigon lwcus i weld bywyd gwyllt fel moch daear a chnocellod y coed. O’r mwyngloddiau aur Rhufeinig yn Nolaucothi i gardd furiog yr hen blas, mae’r llwybr yn gyfoeth o hanes hefyd.
Eiddo ger
DolaucothiMan cychwyn
Maes parcio Coetir Dolaucothi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cyfeirnod grid: SN662403Gwybodaeth am y Llwybr
*Cymysgedd o lwybrau, lonydd a thraciau gyda dringfa gymharol serth. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Tirwedd.
**Mae rhan gyntaf y llwybr yn addas i gadeiriau olwyn, hyd at Gam 4 ar y map. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Mynediad.
***Mae croeso i gŵn ar dennyn. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Cyfleusterau.
Mwy yn agos i’r man hwn
Llwybr Ffordd y Mwynwyr yn Dolaucothi
Profwch hanes ar y llwybr cymedrol hwn yn Nolaucothi, lle byddwch yn cerdded yn ôl traed cloddwyr aur drwy’r oesoedd.

Llwybr y parcdir yn Dolaucothi
Crwydrwch y parcdir o gwmpas Dolaucothi ar y daith gerdded rwydd hon, gan fwynhau tiroedd y plasty a llwybrau glan afon, gyda chlychau’r gog yn y gwanwyn a ffyngau yn yr hydref.

Llwybr yr Ystâd yn Dolaucothi
Dilynwch ôl traed hynafol y Rhufeiniaid ar hyd glannau Afon Cothi a dringwch i bwynt uchaf Ystâd Dolaucothi am olygfeydd trawiadol dros Bumsaint a’r dyffryn ehangach.

Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Dolaucothi
Ewch i wisgo eich bŵts a darganfod unig Fwynglawdd Aur Rhufeinig hysbys y DU.

Ymweld â'r ystâd yn Nolaucothi
Gyda dros 2,500 erw o ystâd, coetir, ffermydd a pharcdir i’w darganfod, mae cymaint mwy i Ddolaucothi yn Sir Gâr na’r mwyngloddiau Rhufeinig.

Ymweld â Dolaucothi gyda’ch ci
Mae gan Ddolaucothi sgôr dwy bawen. Mae ymweliad â Dolaucothi yn gyfeillgar i gŵn gyda milltiroedd o lwybrau cerdded i’w mwynhau ar draws yr ystâd, mae ‘na leoliadau arbennig i chi a’ch ci eu darganfod.

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.



