Llwybr y parcdir yn Dolaucothi
Cymru
Cylchdaith rwydd o gwmpas tiroedd plasty Dolaucothi. Mae’r llwybr yn eich tywys ar lan afon ac ar hyd y brif rodfa i’r plasty. Yn y gwanwyn mae’r gerddi o dan garped o glychau’r gog ac yn yr hydref mae’n lle gwych i ddod o hyd i ffyngau.
Eiddo ger
DolaucothiMan cychwyn
Maes parcio Coetir Dolaucothi, cyfeirnod grid: SN66240Gwybodaeth am y Llwybr
*Mae’r llwybr yn anwastad mewn mannau, a gall fod yn fwdlyd. Rhai stepiau, camfeydd a gatiau. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Tirwedd.
**Mae darn cyntaf y llwybr yn addas i gadeiriau olwyn, hyd at Gam 3 ar y map. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Mynediad.
***Mae croeso i gŵn ar dennyn. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Cyfleusterau.
Mwy yn agos i’r man hwn
Llwybr yr Ystâd yn Dolaucothi
Dilynwch ôl traed hynafol y Rhufeiniaid ar hyd glannau Afon Cothi a dringwch i bwynt uchaf Ystâd Dolaucothi am olygfeydd trawiadol dros Bumsaint a’r dyffryn ehangach.

Llwybr Ffordd y Mwynwyr yn Dolaucothi
Profwch hanes ar y llwybr cymedrol hwn yn Nolaucothi, lle byddwch yn cerdded yn ôl traed cloddwyr aur drwy’r oesoedd.

Llwybr coetir yn Dolaucothi
Cerddwch drwy goetiroedd hyfryd, gan ddilyn llwybrau a ddefnyddiwyd ‘slawer dydd gan geffylau’n llusgo pren. Darganfyddwch hanes Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, pentref Pumsaint a’r hen blas wrth fynd.

Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Dolaucothi
Ewch i wisgo eich bŵts a darganfod unig Fwynglawdd Aur Rhufeinig hysbys y DU.

Ymweld â'r ystâd yn Nolaucothi
Gyda dros 2,500 erw o ystâd, coetir, ffermydd a pharcdir i’w darganfod, mae cymaint mwy i Ddolaucothi yn Sir Gâr na’r mwyngloddiau Rhufeinig.

Ymweld â Dolaucothi gyda’ch ci
Mae gan Ddolaucothi sgôr dwy bawen. Mae ymweliad â Dolaucothi yn gyfeillgar i gŵn gyda milltiroedd o lwybrau cerdded i’w mwynhau ar draws yr ystâd, mae ‘na leoliadau arbennig i chi a’ch ci eu darganfod.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

