Archwiliwch Coed a Gweirglodd y Ffwrnais
Gydag 80 erw i’w harchwilio, mae llwybr i bawb ei fwynhau yng ngardd hyfryd Bodnant. Mae’r llwybr yma i fyny’r bryn drwy Coed a Gweirglodd y Ffwrnais yn her fydd yn mynd â chi i ben y bryn ac yn eich gwobrwyo efo golygfeydd panoramig.

Dechrau:
Dechreuwch y daith hon o’r Hen Felin yn y Glyn
1
Gan ddechrau wrth yr Hen Felin, dilynwch y llwybr heibio’r ciosg sy’n gwerthu paned a byrbryd tuag at ardd y Glyn. Ewch ar hyd y llwybr cyntaf ar y llaw dde i fyny’r llethr dros bont bren fechan sy’n eich arwain ar hyd Llwybr Douglas, sydd â choed Ffynidwydden Douglas bob ochr iddo.
Llwybr Douglas
Coeden o Ogledd America yw’r Ffynidwydden Douglas. Cafodd y coed ‘egsotig’ yma eu plannu gan sylfaenydd Bodnant, Henry Pochin a’i ferch Laura yn niwedd y 1800au.
2
Daw’r llwybr yma a chi at lannerch lle gallwch weld Dôl y Ffwrnais. O’r fan hyn, cymerwch lwybr ar y llaw chwith sy’n dilyn llinell derfyn y cae ar lwybr serth i fyny drwy nifer o goed coniffer tal, hynafol iawn eraill o Ogledd America. Wrth ichi barhau i gerdded i fyny, mae golygfeydd dros yr ardd yn dechrau ymddangos rhwng y coed ar y chwith ichi.
Dôl y Ffwrnais
Mae’r glaswelltir yma’n gartref i nifer o wahanol rywogaethau ac yn cael ei reoli er mwyn bywyd gwyllt erbyn hyn. Yn yr haf rydym yn torri’r borfa i wneud llwybrau drwy’r gwair a’r blodau gwyllt sy’n llawn gwenyn a gloÿnnod byw .
3
Wrth i chi ddringo’r llethr mae’r llwybr yn mynd yn fwy gwastad ac yn ymuno â Llwybr Penjerrick. Ar y naill ochr a’r llall mae rhododendron Penjerrick ifanc (dewch nôl i’w gweld wedi aeddfedu mewn rhai blynyddoedd.) Mae’r llwybr uwch ben yn rhedeg ar hyd top Bryn y Ffwrnais lle cewch chi olygfa banoramig o Ddyffryn Conwy.
Llwybr Penjerrick
Plannwyd Llwybr Penjerrick yn 2015 i ail-greu rhodfa flodeuog hanesyddol 80 metr a fodolai yma yn ystod cyfnod cynnar yr 1900au.
4
Mae llwybr yn troi a throelli yn ôl i lawr ochr y bryn ar hyd Sedd y Fonesig. Dyma le da i gymryd hoe ac eistedd i lawr i fwynhau’r golygfeydd bendigedig dros yr ardd. O’r fan hyn gallwch weld y Terasau Eidalaidd oddi tanoch ar ochr arall y dyffryn. Cafodd y rhain eu creu rhwng 1904-1914.
Sedd y Fonesig
Cyflwynwyd Sedd y Fonesig i’r Fonesig bresennol, Lady Ann Aberconway, ar ei phen-blwydd yn 80 oed.
5
Wrth i chi barhau i lawr ar hyd Sedd y Fonesig gallwch fwynhau’r rhododendron Asiaidd hardd, y magnolia a’r ceirios yn y gwanwyn. Mae rhai o’r rhain yn hen ac yn brin, wedi eu tyfu o hadau a gasglwyd yn Tsieina gan gasglwyr planhigion ar ddechrau’r 1900au.
Rhododendron prin
Chwiliwch am blanhigion gyda labeli gwyrdd – mae’r rhain yn blanhigion hybrid arbennig wedi eu bridio yma yng Ngardd Bodnant yn y ganrif ddiwethaf.
6
Yn ôl ar y gyffordd gyda Llwybr y Ddôl gallwch droi nôl ar eich hun ac ymestyn eich tro drwy ddilyn un o’r llwybrau eraill sy’n mynd igam-ogam drwy Goed y Ffwrnais. Neu efallai yr hoffech chi barhau tua’r de ar hyd y ddôl ac i lawr at lan y llyn yn y Pen Pellaf, a dod nôl drwy goed ywen y Glyn a’r Llennyrch (gweler y map o Bodnant). Neu gallwch ddod nôl y ffordd daethoch chi, i lawr Llwybr Douglas at yr Hen Felin.
Yr Hen Felin
Mae’r Hen Felin Sioraidd yn adeilad rhestredig Gradd II. Yn 2013 cafodd ei hadfer yn rhannol gan wirfoddolwyr fel lle i gynnal cyfarfodydd, arddangosfeydd a gweithdai. Ewch i mewn am sbec ac i weld arddangosfa am Goed a Dôl y Ffwrnais.
Diwedd:
Mae’r daith gylchol yma’n dod â chi nôl at yr Hen Felin ar y diwedd.