Llwybr chwedlonol Dinas Emrys
Mwynhewch dro braf heibio rhaeadrau a thrwy goedwig dderi hardd i gyrraedd y copa dymunol hwn a’i olygfeydd gwych. Ar y copa fe welwch olion tŵr sgwâr a rhagfuriau amddiffynnol a oedd yn eiddo i hen dywysogion Gwynedd gynt.
Mae draig yn cysgu dan y tir
Yn ôl y chwedl, roedd y Brenin Gwrtheyrn am adeiladu castell ar gopa Dinas Emrys, ond bob nos fe fyddai muriau ei gastell yn dymchwel. Mynnai’r dewin Myrddin bod dwy ddraig yn ymladd o dan y bryn, a dyna’r rheswm dros gwymp y muriau. Felly cloddiodd Gwrtheyrn a’i ddynion i mewn i’r mynydd a rhyddhau dwy ddraig. Brwydrodd y ddraig goch yn erbyn y ddraig wen, ac yn y diwedd fe redodd y ddraig wen i ffwrdd, gan adael y ddraig goch i ddychwelyd i’w gwâl. Adeiladwyd Castell Gwrtheyrn a’i enwi’n Dinas Emrys ar ôl Myrddin Emrys (y dewin), ac fe ddathlwyd y ddraig goch byth ers hynny.

Dechrau:
Maes parcio Craflwyn, SH 600 489
1
Dechreuwch eich taith yng Nghanolfan Tywysogion Gwynedd yng Nghraflwyn.
Tywysogion Gwynedd
Camwch nôl mewn amser a darganfyddwch fwy am dirwedd ddramatig a hanesyddol Cymru, ac am hanes Tywysogion Gwynedd, y llinach ganol oesol fwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Roedd yr arweinwyr arbennig hyn yn ryfelwyr arswydus, gwleidyddion craff a noddwyr hael llenyddiaeth a phensaernïaeth. Fe ffurfiwyd y wlad sy’n gyfarwydd i ni heddiw gan eu bywyd a’u hamserau nhw, dros gyfnod o 900 mlynedd a mwy, gan adael ôl oesol ar y dirwedd gyfoes.

2
O’r maes parcio ewch ar y llwybr sy’n arwain i fyny drwy’r goedwig. Dilynwch y llwybr sy’n mynd i’r dde tuag at ffau y dreigiau. Ar ol seibiant ar y fainc ewch ymlaen ar hyd y llwybr ac i fyny stepiau i'r dde o rhaeadr fach.
Cymerwch sêt
Mae eich taith chwilio yn dechrau pan ddewch o hyd i’r fainc wedi ei naddu fel draig o fewn y goedwig yng Nghraflwyn. Cymerwch sêt a mwynhewch heddwch a llonyddwch o fewn gardd Siapaneaidd y goedwig dderi.

3
Ewch ymlaen ar eich taith nes cyrraedd cyffordd dair ffordd mewn ardal agored. Dilynwch y llwybr sy’n arwain yn syth ymlaen, i fyny tua’r goedwig. Arhoswch ar y llwybr hwn a chroesi pont fechan cyn dod at raeadr hardd.
Pwll Myrddin
Oedwch am dipyn ac eisteddwch wrth y rhaeadr a gwrando ar gryndod y dŵr.
4
Ymlaen â chi ar eich siwrne gan ddilyn y llwybr a chadw llygad ar agor am arwyddion coch a melyn Tywysogion Gwynedd. Cyn bo hir, fe ddewch at gamfa yn y wal ar y dde. Ewch dros y gamfa ac i fyny i’r coed.
Adeiladwch eich castell eich hun
Ry’n ni’n frwd dros weld plant allan yn yr awyr agored ac yn agosach at fyd natur, a dyma gyfle perffaith i adeiladu’ch castell eich hun; allan o ganghennau, dail a brigau wrth gwrs.

5
Pan fyddwch yn cyrraedd fforch yn y llwybr, cymerwch y llwybr i'r dde. Cyn bo hir fe ddewch at gamfa dros ffens, neidiwch drosti ac ymlaen â chi drwy’r coed, rhwng y clogwyni creigiog. Dilynwch y llwybr igam-ogam i fyny’r clogwyni creigiog tuag at Ddinas Emrys.
Nant Gwynant
Edrychwch tua’r chwith wrth i chi ddringo’n uwch ac fe gewch olygfa fendigedig dros Lyn Dinas a draw am Nant Gwynant.
6
Bron yna – dim ond ambell gam eto ac fe fyddwch ar gopa Dinas Emrys, lle allwch fwynhau golygfeydd gwych. Unwaith da chi'n barod i droi'n ôl, dilynwch y llwybr yn ôl i'r maes parcio.
Gwyliwch rhag dreigiau

Diwedd:
Maes parcio Craflwyn, SH 600 489