Skip to content
Golygfa o lyn yn ymestyn i’r pellter gyda bryn creigiog ar un ochr
Yr Aran, Eryri | © National Trust Images/Keith Jones
Wales

Taith gylchol Craflwyn, Hafod y Llan a Llyn Dinas

Mae’r daith yma’n cychwyn a gorffen yng Nghraflwyn, ond mae’n rhoi cyfle i chi weld dyffryn Nant Gwynant yn ehangach. Mwynhewch y gweundir a’r ffridd wyllt ac unig dan yr Aran, llethrau isaf copa uchaf Cymru, yr Wyddfa, rhaeadrau rhyfeddol Afon Cwm Llan a’r Llyn Dinas trawiadol. Ar hyd y ffordd byddwch yn dysgu am y dirwedd ddiddorol yma a sut yr ydym yn ei diogelu.

Byddwch yn barod am ddiwrnod yn y mynyddoedd

Dim ond rhan o’r llwybr hwn sydd ag arwyddion, felly gofalwch bod gennych fap a chwmpawd hefo chi, edrychwch ar y tywydd cyn cychwyn a byddwch yn barod am ddiwrnod allan yn y mynyddoedd. Mae’r llwybr hefyd yn eich arwain trwy nifer o ffermydd, felly rydych yn debygol o ddod ar draws anifeiliaid fferm.

Cyfanswm y camau: 7

Cyfanswm y camau: 7

Man cychwyn

Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Craflwyn, cyfeirnod grid: SH600489

Cam 1

O faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghraflwyn dilynwch y llwybr sy’n arwain i fyny trwy’r coetir. Lle mae’r llwybr yn fforchio, dilynwch y marciwr saeth du i’r dde. Ewch ymlaen heibio mainc y ddraig ac yna i fyny grisiau gyda rhaeadr fach ar y chwith i chi.

Cam 2

Ar ben y grisiau dilynwch y llwybr i’r dde, trwy goed bedw ac i lannerch. Daliwch i fynd ymlaen gan ddilyn y saethau du ac anwybyddu dau lwybr sy’n mynd i’r dde. Arhoswch i edmygu’r olygfa o Gadair y Cawr ar y dde cyn mynd ymlaen i’r chwith a dringo i fyny grisiau (anwybyddwch y gamfa ar y dde i chi) a dilyn y llwybr wrth iddo ddolennu i fyny, croeswch gamfa fach dros ffens ac anelu i fyny am y ffridd.

Cadair bren fawr ar ben bryn yn edrych ar olygfeydd mynyddig
Cadair y Cawr, Eryri | © National Trust Images/Gwenno Parry

Cam 3

Dilynwch y llwybr tua’r dwyrain tuag at Fylchau Terfyn. Fel arfer bydd carped o glychau’r gog yn y ffridd ar y chwith i chi ar ddechrau’r haf. Croeswch gamfa ar y wal a dal i fynd gan ddilyn y marcwyr du. Pan fyddwch yn cyrraedd y bont yn agos i hen adfail, trowch i’r chwith ar lwybr a pharhau ar i fyny.

Cam 4

Trowch i’r chwith eto wrth yr adfail nesaf. Daliwch i fynd hyd y llwybr nes y byddwch yn cyrraedd camfa arall dros wal. Dilynwch y marcwyr i lawr tuag at Lwybr Watkin, ar ddiwrnod clir gallwch weld Llyn Gwynant a Moel Siabod yn y pellter.

Cam 5

Pan fyddwch yn cyrraedd llwybr (llwybr Watkin) trowch i’r dde a mynd i lawr llethrau isaf copa uchaf Cymru, yr Wyddfa. (Cofiwch bod y marcwyr ffordd du yn dod i ben yma.) Bydd rhaeadrau trawiadol Afon Cwm Llan ar y chwith i chi ac mae darn olaf Llwybr Watkin yn eich arwain trwy goed derw hynafol hardd Parc Hafod y Llan.

Hen lwybr caregog yn rhedeg ar hyd llethr ger gwaelod dyffryn wrth ochr nant
Llwybr Watkin, Cymru | © National Trust Images/Joe Cornish

Cam 6

Ar waelod y llwybr, trowch i’r dde i lôn ac yna i’r dde eto wrth gyrraedd y briffordd. Ar ôl pasio Caffi Gwynant, cymrwch y troad nesaf i’r chwith, gan groesi Afon Glaslyn. Ac yna’r cyntaf i’r dde, tuag at Fferm Llyndy Isaf. Dilynwch y llwybr heibio’r fferm a cherdded ar hyd glannau Llyn Dinas, byddwch yn mynd trwy sawl giât ar y ffordd.

Cam 7

Ar ben y llyn, daliwch i fynd yn syth ymlaen a thrwy’r giât, gan ddilyn Afon Glaslyn ar i lawr tuag at Feddgelert. Dilynwch y llwybr nes byddwch yn cyrraedd hen Waith Copr Sygun, ac oddi yma trowch i’r dde tuag at y briffordd. Ar y ffordd trowch i’r chwith a dal i fynd ar hyd y ffordd nes byddwch yn cyrraedd Craflwyn ar y dde i chi.

Man gorffen

Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Craflwyn, cyfeirnod grid: SH600489

Map llwybr

Taith Craflwyn, Hafod y Llan a Llyn Dinas
Map taith Craflwyn, Hafod y Llan a Llyn Dinas | © Crown copyright and database rights Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Golygfa o Nant Gwynant o Ddinas Emrys, Beddgelert, Gogledd Cymru
Llwybr
Llwybr

Taith chwedlonol Dinas Emrys 

Mwynhewch daith gerdded ddymunol heibio rhaeadrau a thrwy goetir derw hardd i gyrraedd copa’r bryn chwedlonol yma, lle bu Myrddin unwaith a lle mae draig yn dal i gysgu.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 2.2 (km: 3.52)
Llwybr cerdded wrth ochr afon ym Meddgelert, Eryri, Cymru
Llwybr
Llwybr

Taith bedd Gelert 

Bydd y daith yn eich arwain o ganol y pentref, ar hyd glan Afon Glaslyn at safle bedd Gelert. Byddwch hefyd yn dod i ddeall chwedl Gelert a’r Tywysog Llywelyn a roddodd enw i’r pentref.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Cerddwyr yn dilyn llwybr cul ar lan afon Glaslyn, Craflwyn a Beddgelert, Cymru.
Llwybr
Llwybr

Taith Aberglaslyn, Llyn Dinas a Chwm Bychan 

Archwiliwch fwlch Aberglaslyn, dyfroedd Llyn Dinas, pentref hardd Beddgelert a gwaith copr Cwm Bychan ar y llwybr heriol hwn yn Eryri.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 5.7 (km: 9.12)
Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri
Llwybr
Llwybr

Llwybr Rhedeg Craflwyn 

Dewch i weld tirwedd yn llawn chwedlau a hanes wrth i chi redeg y llwybr a dysgu am y gwaith a wneir yn yr ardal i’w chadw yn arbennig ac yn llawn bywyd gwyllt.

Gweithgareddau
Rhedeg
PellterMilltiroedd: 10.5 (km: 16.8)

Cysylltwch

near Beddgelert, Gwynedd, LL55 4NG

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Grug a chreigiau ar fferm Hafod y Llan, gyda chopa’r Aran yn y pellter, Eryri, Cymru
Erthygl
Erthygl

Pethau i’w gweld a’u gwneud yn Hafod y Llan 

Darganfyddwch bethau i’w gwneud yn fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru ar lethrau’r Wyddfa, gan gynnwys llwybrau cerdded a’r bywyd gwyllt y gallwch ei weld.

Adeilad glöwr adfeiliedig yng Nghwm Llan ar fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru, gyda chymylau ar y bryniau yn y cefndir
Erthygl
Erthygl

Hanes Hafod y Llan 

Dysgwch am hanes cyfoethog fferm Hafod y Llan yn Eryri, Cymru, gan ddechrau yn y 12fed ganrif.

Walkers climbing rocks against a bright blue sky with the mountains in the distance at Sugarloaf, Monmouthshire

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

The exterior of Hen Dy, Gwynedd, Gwynedd
Erthygl
Erthygl

Bythynnod gwyliau yn Eryri 

Gyda’i fynyddoedd anferth, ceunentydd dwfn a llynnoedd hardd, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gyrchfan wyliau delfrydol i’r rhai sy’n mwynhau’r awyr agored a’r rhai sy’n caru natur. Arhoswch yn un o'n bythynnod gwyliau yn Eryri ac archwiliwch ardal arbennig hon o Gymru.