Skip to content
Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri
Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri | © National Trust Images
Wales

Llwybr Rhedeg Craflwyn

Mae’r llwybr rhedeg yma’n cychwyn a gorffen yng Nghraflwyn, ond mae’n rhoi cyfle i chi weld dyffryn Nant Gwynant yn ehangach, pentref Beddgelert yn ogystal â llethrau isaf copa uchaf Cymru, Yr Wyddfa a Mynydd Sygun, lle mae hen weithfeydd copr.

Taith redeg heriol

Dyluniwyd y llwybr hwn ar gyfer rhedwyr mynydd profiadol. Dim ond rhannau o’r daith sydd wedi eu nodi ag arwyddion. Felly gofalwch bod gennych fap a chwmpawd hefo chi, edrychwch ar y tywydd cyn cychwyn a byddwch yn barod am ddiwrnod allan yn y mynyddoedd.

Cyfanswm y camau: 9

Cyfanswm y camau: 9

Man cychwyn

Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Craflwyn, LL55 4NG. Cyfeirnod Grid SH599489

Cam 1

O faes parcio Craflwyn dilynwch y llwybr sy’n arwain i fyny trwy’r coetir. Lle mae’r llwybr yn fforchio, dilynwch y marciwr saeth du i’r dde. Ewch ymlaen heibio mainc y ddraig ac yna i fyny grisiau gyda rhaeadr fach ar y chwith i chi.

Rhaeadr fechan yng Nghraflwyn, Eryri
Rhaeadr fechan yng Nghraflwyn, Eryri | © National Trust Images

Cam 2

Ar ben y grisiau dilynwch y llwybr i’r dde, trwy goed bedw ac i lannerch. Daliwch i fynd ymlaen gan ddilyn y saethau du ac anwybyddu dau lwybr sy’n mynd i’r dde. Arhoswch i edmygu’r olygfa o Gadair y Cawr ar y dde cyn mynd ymlaen i’r chwith a dringo i fyny grisiau (anwybyddwch y gamfa ar y dde i chi). Dilynwch y llwybr wrth iddo ddolennu i fyny, croeswch gamfa fach dros ffens ac anelu i fyny am y ffridd.

Cadair y Cawr yng Nghraflwyn, yn edrych dros Ddinas Emrys a Mynydd Sygun yn Eryri
Cadair y Cawr yng Nghraflwyn, Eryri | © National Trust Images

Cam 3

Anelwch am y dwyrain tuag at Fylchau Terfyn. Croeswch gamfa ar y wal a dal i fynd gan ddilyn y marcwyr du. Pan fyddwch yn cyrraedd y bont yn agos i hen adfail, trowch i’r chwith ar drac a pharhau ar i fyny. Trowch i’r chwith eto wrth yr adfail nesaf. Daliwch i fynd hyd y llwybr nes y byddwch yn cyrraedd camfa arall dros wal. Dilynwch yr arwyddion i lawr tuag at Lwybr Watkin. Ar ddiwrnod clir gallwch weld Llyn Gwynant a Moel Siabod yn y pellter.

Cam 4

Pan fyddwch yn cyrraedd llwybr (llwybr Watkin) trowch i’r dde a mynd i lawr llethrau’r Wyddfa. Cofiwch bod y marcwyr ffordd du yn dod i ben yma.

Cam 5

Ar waelod y llwybr, trowch i’r dde i lôn ac yna i’r dde eto wrth gyrraedd y briffordd. Ar ôl pasio Caffi Gwynant, cymrwch y troad nesaf i’r chwith, gan groesi Afon Glaslyn. Ac yna’r cyntaf i’r dde, tuag at Fferm Llyndy Isaf. Dilynwch y llwybr heibio’r fferm a rhedeg ar hyd glannau Llyn Dinas, byddwch yn mynd trwy sawl giât ar y ffordd.

Cam 6

Ar ben y llyn, trowch i’r chwith ar hyd llwybr o gerrig sy’n mynd i fyny’r bryn yn igam-ogam. Ar y top daliwch i fynd am hanner milltir (anwybyddwch y llwybr cyntaf ar y dde). Lle mae’n fforchio, cadwch i’r dde.

Cam 7

O Fwlch y Sygun dilynwch y llwybr chwith (tua’r de) yna cadwch i’r dde, i lawr Cwm Bychan. Ar y gwaelod ewch ymlaen heibio’r maes parcio a thrwy’r coed nes y dewch chi at yr afon.

Golygfa o raffordd Cwm Bychan, olion y diwydiant copr yn Eryri, Beddgelert, Cymru.
Rhaffordd Cwm Bychan, olion y diwydiant copr | © National Trust Images/Graham Eaton

Cam 8

Trowch i’r dde wrth yr afon a dilyn y Glaslyn ar i fyny. Byddwch yn ofalus ar y tir anwastad, caregog ac wrth groesi’r rheilffordd. Ewch yn syth ymlaen at y groesfan reilffordd. Ewch heibio pont droed ar y chwith a dilyn yr afon ar i fyny, cyn croesi stryd a mynd trwy giât. Ar ôl mynd trwy Fwlch Aberglaslyn, dilynwch y llwybr ar hyd yr afon gyda llethrau isaf Mynydd Sygun ar y dde i chi.

Cam 9

Wrth y giât nesaf, trowch i’r dde i lôn gul a dilyn hon at Waith Copr Sygun. Yma, trowch i’r chwith i’r briffordd brysur a chwith eto nes cyrhaeddwch chi faes parcio Craflwyn ar y dde.

Man gorffen

Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Craflwyn, LL55 4NG. Cyfeirnod Grid SH599489

Map llwybr

Llwybr rhedeg yn archwilio dyffryn Nant Gwynant yn cychwyn a gorffen yng Nghraflwyn, Eryri
Map Llwybr Rhedeg Craflwyn, Eryri | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Golygfa o Nant Gwynant o Ddinas Emrys, Beddgelert, Gogledd Cymru
Llwybr
Llwybr

Taith chwedlonol Dinas Emrys 

Mwynhewch daith gerdded ddymunol heibio rhaeadrau a thrwy goetir derw hardd i gyrraedd copa’r bryn chwedlonol yma, lle bu Myrddin unwaith a lle mae draig yn dal i gysgu.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 2.2 (km: 3.52)
Llwybr cerdded wrth ochr afon ym Meddgelert, Eryri, Cymru
Llwybr
Llwybr

Taith bedd Gelert 

Bydd y daith yn eich arwain o ganol y pentref, ar hyd glan Afon Glaslyn at safle bedd Gelert. Byddwch hefyd yn dod i ddeall chwedl Gelert a’r Tywysog Llywelyn a roddodd enw i’r pentref.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Cerddwyr yn dilyn llwybr cul ar lan afon Glaslyn, Craflwyn a Beddgelert, Cymru.
Llwybr
Llwybr

Taith Aberglaslyn, Llyn Dinas a Chwm Bychan 

Archwiliwch fwlch Aberglaslyn, dyfroedd Llyn Dinas, pentref hardd Beddgelert a gwaith copr Cwm Bychan ar y llwybr heriol hwn yn Eryri.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 5.7 (km: 9.12)
Golygfa o lyn yn ymestyn i’r pellter gyda bryn creigiog ar un ochr
Llwybr
Llwybr

Taith gylchol Craflwyn, Hafod y Llan a Llyn Dinas 

Archwiliwch y gweundir a’r ffridd wyllt ac unig dan yr Aran, llethrau isaf copa uchaf Cymru, yr Wyddfa, rhaeadrau rhyfeddol Afon Cwm Llan a’r Llyn Dinas trawiadol ar y daith gylchol hon.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 6.5 (km: 10.4)

Cysylltwch

near Beddgelert, Gwynedd, LL55 4NG

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Grug a chreigiau ar fferm Hafod y Llan, gyda chopa’r Aran yn y pellter, Eryri, Cymru
Erthygl
Erthygl

Pethau i’w gweld a’u gwneud yn Hafod y Llan 

Darganfyddwch bethau i’w gwneud yn fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru ar lethrau’r Wyddfa, gan gynnwys llwybrau cerdded a’r bywyd gwyllt y gallwch ei weld.

Cerddwr ar bont droed yn edrych dros Lyn Idwal yng Nghwm Idwal, Eryri, Gogledd Cymru
Erthygl
Erthygl

10 o lwybrau cerdded gorau Eryri 

Ewch allan i’r awyr agored ac i ganol byd natur gydag un o’n llwybrau cerdded y gallwch eu lawrlwytho, sydd wedi eu trefnu gan geidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

A family walking alongside Lake Windermere at Fell Foot during winter, Cumbria

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.