Taith gerdded fywyd gwyllt Parc Dinefwr, Sir Gaerfyrddin
Ar y daith 3-milltir hon fe welwch rai o fannau gwylio bywyd gwyllt gorau’r stad, yn ogystal â chastell canoloesol diddorol a phlasty o’r 17eg ganrif.
Darganfyddwch yr unig Warchodfa Natur Genedlaethol yng Nghymru
Mae parcdir hynafol Dinefwr yn enwog am ei fywyd gwyllt toreithiog a’r golygfeydd anhygoel o’r cwm. Roedd rhai o’r coed mwyaf hynafol yma dros 700 mlynedd oed, medden nhw, ac yn cynnal y fath amrywiaeth eang o gen a phryfetach fel ei bod yn rhaid cyhoeddi bod y safle yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.


Dechrau:
Maes parcio Canolfan Groeso Parc Dinefwr, cyf grid: SN615224
1
Trowch i’r dde wrth fynd allan o’r Ganolfan Groeso a dilynwch arwyddion gwas y neidr (Taith Gwas y Neidr) nes cyrraedd y cwt pwmpio. Yna dilynwch yr arwyddion crëyr glas (Taith yr Afon). Ewch lawr y rhiw, heibio’r cwt colomennod ar y dde (arferai colomennod fod yn ffynhonnell o gig i’r teulu). Byddwch yn cyrraedd Mynachdy, hen dy’r ciper, yn weddol glou ar eich ochr chwith.
Danasod
Yr amser gorau i weld y danasod yw’n hwyr yn y prynhawn a gyda’r nos pan maen nhw’n dod allan i’r llennyrch. O Dŷ Newton, edrychwch i lawr i gwm y parc ceirw ac efallai y cewch gipolwg arnyn nhw’n crwydro ymysg y coed. Dewch draw yn yr hydref ac efallai y gwelwch y ceirw’n rhidio.
2
Y tu hwnt i’r lladd-dy (mae’r hen winshiau ar gyfer codi cyrff y ceirw a’r gwartheg yn dal ynddo), trowch i’r dde drwy giât i Goed y Gors a dilynwch lwybr pren at bwll y felin.
Coed a phryfed
Mae nant yn llifo drwy’r goedwig hanesyddol hon, sy’n cynnwys coed helyg a gwern yn bennaf. Mae parcdir Dinefwr yn cynnwys tua 300 o goed sy’n hŷn na 400 oed, sy’n golygu bod y parcdir hwn yn bwysig yn genedlaethol. Credir bod coeden dderw hynaf y parc wedi dechrau tyfu yn y 14eg ganrif. Mae’r parc hefyd wedi dod yn bwysig am ei bryfed; yma ar y stad mae dros 25 o rywogaethau o bryfed sy’n brin yn genedlaethol. Gadewir ganghennau sydd wedi cwympo gan eu bod yn gynefin pwysig i infertebratau saprosylig, neu ‘infertebratau pren marw’ - fel chwilod sy’n dibynnu ar bren pwdr am eu bwyd a lloches.
3
Cerddwch o gwmpas pwll y felin a grëwyd yn fwriadol. Yn y tŷ pwmpio, dilynwch yr arwyddion ar gyfer Llwybr yr Afon.
Bywyd gwyllt pwll y felin
Safle gwych i weld gweision neidr a mursennod yn y gwanwyn a’r haf. Chwiliwch hefyd am fadfallod dŵr, brogaod a hwyaid, yn ogystal â glas y dorlan o dro i dro (os y’ch chi’n lwcus).
4
Yr afon Tywi sydd wedi ffurfio’r ystumllynnoedd sy’n nodi terfyn deheuol stad Dinefwr. Dilynwch y rhes o goed ar hyd llwybr, gydag adfeilion Castell Dinefwr o’r 12fed ganrif uwch eich pen ar y llaw chwith.
Cnocellau’r coed ac adar dŵr
Mae tair cnocell y coed gwledydd Prydain (y fraith leiaf, y fraith fwyaf a’r werdd) yn byw yn y coedwigoedd. Yr adeg gorau ar gyfer gwylio adar dŵr ym mharc Dinefwr yw’r haf a’r gaeaf. Ymysg yr adar dŵr sy’n galw heibio yn y gaeaf mae’r gorhwyaden, y chwiwell a’r hwyaden gopog.
5
Gan gadw’r afon ar eich llaw dde, cerddwch trwy ddyffryn Tywi.
Golfanod y mynydd
Mae poblogaeth brin o olfanod y mynydd yn nythu yng ngwrychoedd dyffryn Tywi. Mae golfan y mynydd yn edrych yn debyg i aderyn y to ond mae ganddo smotyn du amlwg ar ei foch. Mae’r gwrychoedd yn gynefin pwysig i’r adar bach hyn sy’n perthyn i gynefin ffermdir ac maen nhw wedi cael eu hastudio gan wirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers blynyddoedd lawer.
6
Trowch i’r chwith yma ar lwybr i Eglwys Llandyfeisant.
7
Mae’r eglwys hon yn nodwedd bwysig yn y dirwedd hardd a gynlluniwyd gan berchnogion y gorffennol. Cafodd ei hailadeiladu i raddau helaeth yn y 19eg ganrif ond mae’n dyddio’n ôl i’r canoloesoedd.
8
Ar y trac yn ôl i’r Ganolfan Groeso, ewch heibio hen gaer Rufeinig fawr ar gopa’r bryn ar eich llaw dde. Mae arolygon archeolegol wedi profi ei bod wedi bodoli, ond nid oes dim i’w weld ar y ddaear. Cewch gyfle i edmygu Gwartheg Gwyn hirgorn y Parc wrth i chi groesi’r parcdir a dychwelyd i’ch man cychwyn.
Gwartheg Gwyn y Parc
Dengys cofnodion bod y Gwartheg Gwyn prin, sy’n crwydro’n agos at Dŷ Newton, wedi bod yn bresennol yn y parc am dros fil o flynyddoedd.
Diwedd:
Maes parcio Canolfan Groeso Parc Dinefwr, cyf grid: SN615224