Adfywiad Gardd Goed Dyffryn

Part of our gardening team looking after the gardens.

Yn hydref 2016, dechreuodd prosiect 5 mlynedd i ddiogelu’r coed sbesimen prydferth, unigryw a phrin sydd gennym yn ein Gardd Goed.

Pam fod ein Gardd Goed yn bwysig?

Mae coed wedi cael eu plannu yn Nyffryn ers tua 250 mlynedd, neu ganol y ddeunawfed ganrif. Mae rhai o’r coed addurniadol hyn i’w gweld yma hyd heddiw, er enghraifft y dderwen Lucombe ar y Lawnt Saethyddiaeth. Credwn fod hon yma ers mwy na 400 mlynedd.

O 1906 i 1930 parhaodd Reginald Cory a Thomas Mawson i ddatblygu, gwella ac ehangu gerddi Dyffryn, yn arbennig y casgliad o blanhigion coediog. Yn ystod y cyfnod hwn sefydlwyd llawer o’r Ardd Goed, gyda chasgliad o goed egsotig ac addurniadol, llwyni a bambŵ (cannoedd ohonynt) yn cael eu gosod yn ofalus o dan ac o fewn lleiniau cysgodi o goed tal iawn a llwyni bytholwyrdd.

Pam fod angen gwaith?

Mae ffawd y gerddi, yn arbennig yr Ardd Goed, wedi bod yn ddigon simsan. Cafwyd cyfnodau o esgeuluso rhwng ymdrechion gwahanol arddwyr i ychwanegu at gasgliad planhigion gwreiddiol Cory.

Ym 1997, prynwyd Dyffryn gan Gyngor Bro Morgannwg, a sicrhawyd £3.25 miliwn mewn grantiau. Gwnaeth y grantiau alluogi llawer o’r ardd, gan gynnwys gardd-ystafelloedd gwreiddiol Mawson, yr ardd furiog a’r tai gwydr, i gael ei adfer, ond hyd yma nid oes llawer wedi’i fuddsoddi yn yr Ardd Goed.

Heddiw mae’n edrych braidd yn flêr ac anniben, ond mae’n cynnwys un o gasgliadau coed gorau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nod y prosiect yw diogelu’r coed a’r llwyni pwysig sydd eisoes yn tyfu yno a chael gwared ar y rhai sy’n peryglu eu goroesiad.

Beth yw’r cynllun?

Rydym wedi sicrhau cyllid ar gyfer prosiect 5 mlynedd i adfywio’r Ardd Goed i’w gwir ogoniant. Byddwn yn canolbwyntio ar un adran o’r Ardd Goed bob blwyddyn, gan agor ardaloedd sydd wedi gordyfu, clirio’r ardaloedd o gwmpas ein coed pwysig ac epilio o’r rheini sy’n dod at ddiwedd eu hoes.

Yn 2019 byddwn yn dechrau ar y 3edd flwyddyn o’n cynllun adfywio 5 mlynedd.

Mae’r Ardd Goed yn gartref i sawl rhywogaeth o chwyn esgynnol. Mae’r rhain yn cynnwys Bambŵ’r Corrach, mieri a’r efwr. Byddwn yn gweithio i reoli’r rhain a thacluso ardaloedd eang o gwmpas bonion y coed.

O’r holl lwybrau sy’n arwain drwy’r Ardd Coed, Fista Powlen y Ddraig yw’r mwyaf dramatig mae’n siŵr. Wrth sefyll yng nghanol yr Ardd Goed, mae’r olygfa’n estyn drwy’r coed ac i lawr at y Lawnt Fawr a’r ddraig efydd ar y gamlas.

Dros y blynyddoedd, mae’r fista hon wedi’i cholli gan fod coed a llwyni wedi tyfu tuag allan, dros y llwybr, sydd ddim mewn llinell syth mwyach. Byddwn yn ail-lunio’r llwybr i gael mwynhau’r olygfa ddramatig hon unwaith eto – wrth sefyll ar y naill ben, bydd y coed ar naill ochr y llwybr yn edrych fel trefniant plannu ffurfiol, ond wrth gerdded ar hyd y llwybr fe welwch fod y trefniant yn fwy naturiol, gyda phlannu gwasgarog.