
Gall hanes ystâd Dyffryn gael ei olrhain i'r 7fed ganrif. Er bod rhai bylchau yn yr hanes hwn, mae gennym ddealltwriaeth dda o hanes y tŷ a'r gerddi.
Mae stori Dyffryn yn dyddio'n ôl i'r 7fed ganrif. Enw'r tŷ ar y pryd oedd Plas Worlton a chafodd ei roi i'r Esgob Oudaceous o Landaf. Yn y 16eg ganrif prynodd y teulu Button y plas ac adeiladwyd y tŷ cyntaf. Bu'r teulu'n byw ar yr ystâd am sawl cenhedlaeth, a newidiwyd yr enw i Dŷ Dyffryn.
Mawrion y diwydiant
Ym 1891 gwerthwyd yr ystâd i John Cory, masnachwr glo cyfoethog iawn, a adeiladodd y tŷ presennol yn 1893. Symudodd yma o Ddyfnaint gyda'i wraig Anna Maria a dau o'i bedwar plentyn, Florence a Reginald. Roedd Reginald yn arddwriaethwr brwd, a chydweithiodd ar ddyluniad yr ardd gyda Thomas Mawson. Gallwch weld tystiolaeth o gyfoeth y teulu hyd heddiw - o'r lle tân sy'n dyddio o'r 16eg ganrif i'r ffenestri gwydr lliw a gomisiynwyd yn arbennig.
Cyfnod y cyngor
Yn dilyn marwolaeth Florence yn 1937, prynwyd yr ystâd gan Syr Cennydd Traherne a chafodd ei gosod ar brydles i Gyngor Sir Morgannwg yn 1939. Wedi hyn, fe'i defnyddiwyd at ddibenion sefydliadol am gyfnod fel academi heddlu a chanolfan hyfforddi cŵn ac i gynnal cynadleddau addysg.
Dyfodol Dyffryn
Mae cyngor Bro Morgannwg yn berchen ar y tŷ a'r gerddi o hyd, ond daeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyfrifol am eu cynnal a'u rhedeg yn mis Ionawr 2013 ar brydles o 50 mlynedd. Mae llawer o waith cadwraeth wedi'i wneud i'r tŷ a'r gerddi gan y cyngor, a nawr gallwn adeiladu ar y gwaith hwnnw a diogelu dyfodol Dyffryn.