Mae bywyd gwyllt Eryri yn crefu am eich cefnogaeth

Mwsogl gwlanog Racomitrium lanuginosum, Eryri

Mae tirwedd anhygoel Eryri yn gartref i fywyd gwyllt sydd ymhlith y mwyaf amrywiol a rhyfeddol yn y DU.

I’r miloedd o bobl sy’n ymweld bob blwyddyn, y planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw ar y llethrau creigiog ac yn y dyffrynnoedd tawel a’r afonydd disglair sy’n creu golygfeydd ac awyrgylch mor arbennig. Mae’r cynefinoedd mynyddig mwyaf caled yn gartref i blanhigion ac anifeiliaid prin. A’r rhywogaethau bregus hyn sy’n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y difrod sy’n cael ei achosi gan erydiad llwybrau. Dysgwch ragor am rai o drigolion mwyaf hynod Eryri, ac am y ffordd y gall eich cefnogaeth chi eu diogelu at y dyfodol.

Mae gan fwyeilch y mynydd goler gwyn amlwg ac maen nhw’n byw ar lethrau creigiog, diarffordd
Mwyalchen y mynydd yn Eryri, Cymru

Mwyalchen y mynydd

Mae gan fwyeilch y mynydd goler gwyn amlwg ac maen nhw’n byw ar lethrau creigiog, diarffordd. Efallai y cewch chi gip arnyn nhw’n hedfan yn isel dros Lwybr Watkin wrth i hwnnw wau ei ffordd yn raddol at gopa Eryri, neu eu gweld a’u clywed yn galw’n swynol o graig fawr gyfagos. Er fod mwyalchen y mynydd yn un o adar prinnaf y DU mae wedi bod ar gynnydd yn Eryri yn ddiweddar, diolch i ddulliau ffermio mwy caredig. Ond mae llwybrau gwael yn creu bygythiad newydd. Yn y mannau lle maen nhw wedi erydu ac yn anodd i’w dilyn mae ymwelwyr yn aml yn crwydro oddi ar y llwybr.  Gall hyn achosi i’r llystyfiant gael ei sathru a’i gywasgu o fewn ardaloedd bridio posib ar gyfer mwyalchen y mynydd, gan ei gwneud hi’n anoddach i’r adar hyn ddod o hyd i bryfed i’w cywion. Gyda’ch help chi gallwn drwsio’r llwybrau i warchod y safleoedd hyn ac i atal yr aderyn swil hwn rhag diflannu’n llwyr o lethrau Eryri.  

Chwilen yr Wyddfa, gyda’i liwiau bendigedig
Chwilen yr Wyddfa

Chwilen yr Wyddfa

Os fyddwch chi’n ddigon lwcus i weld Chwilen yr Wyddfa mae’n siwr na wnewch chi fyth anghofio’r profiad. Mae’r chwilen hon, sy’n bwyta teim gwyllt, tua’r un maint â buwch goch gota ac mae’n werth ei gweld oherwydd y stribedi o liwiau coch, aur, gwyrdd a glas ar hyd plisg caled yr adenydd. Enw arall arni yw Chwilen yr Enfys. Mae’n byw dan gerrig a chreigiau ac mae’n bosib mai dim ond 1,000 ohonyn nhw sydd yn y DU – mewn dyrnaid o safleoedd ar hyd a lled Eryri. Ac yn anffodus nid yw llwybrau gwael yn helpu sicrhau dyfodol i’r boblogaeth bitw hon. Os gallwn ni drwsio’r llwybrau, a’u gwneud nhw’n fwy gwydn drwy ddefnyddio technegau a defnyddiau gwell, gallwn helpu sicrhau na fydd eu cynefin yn newid  - a bydd hyn yn rhoi cyfle gwell iddyn nhw oroesi i’r dyfodol.