Mae Eryri’n crefu am eich cefnogaeth

Tryfan, Glyder Fach & Y Garn, Eryri

Mae mwynhau’r awyr agored yn un o bleserau mawr bywyd ac mae’r gwaith ry’n ni’n ei wneud i gynnal y darnau anhygoel o gefn gwlad yn ein gofal yn gwarchod lleoedd arbennig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Mae Eryri’n cwmpasu 838 milltir sgwâr o dirwedd fynyddig, fawreddog. Mae’n drysor cenedlaethol sy’n denu ac yn ysbrydoli miloedd o bobl o bob cwr o’r byd bob blwyddyn. Rydym yn edrych ar ôl tua 58,000 erw o dir mynydd a thir fferm yn yr ardal.

Ond er fod Eryri’n creu agraff o gadernid mae’r ardal, mewn gwirionedd, yn fregus iawn.

Dyma pam yr ydym nawr yn lansio apêl i godi £250,000 er mwyn trwsio’r llwybrau a gwarchod cynefinoedd bywyd gwyllt gwerthfawr yn Eryri.

Un o geidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio ar un o’r llwybrau niferus sydd angen eu trwsio yn Eryri
Un o geidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio ar un o’r llwybrau niferus sydd angen eu trwsio yn Eryri

Rydym newydd gwblhau arolwg trwyadl o’r llwybrau ac mae’n amlwg fod angen gwaith brys i drwsio dwy filltir a hanner ohonyn nhw. Y darnau hyn o lwybrau troed yw ein blaenoriaeth nawr.

Gyda’ch cefnogaeth chi byddwn yn gallu cychwyn ar y gwaith yn syth, gan adfer llwybrau pwysig er lles ymwelwyr y dyfodol a’r bywyd gwyllt pwysig sy’n byw yma.

Gyda chynifer o ddarnau llwybr yn ddim mwy na chorstir gwlyb a llithrig mae’r sefyllfa yn Eryri yn ddifrifol erbyn hyn. Ein nod yw sicrhau y gall cerddwyr ac ymwelwyr barhau i grwydro a mwynhau Eryri fel y maen nhw wedi gwneud erioed.

Yn ôl Rhys Thomas, Ceidwad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri: ‘Mae llwybrau gwael yn bygwth byd natur bregus Eryri. Os na wnawn ni rywbeth ar frys fe allen ni golli rhai o’n trysorau naturiol am byth.’ 

‘Dwi wedi bod yn creu ac yn trwsio llwybrau yn yr ardal ers wyth mlynedd. Mae’n waith anodd, araf  a blinedig. Mae’n golygu treulio cannoedd o oriau gwirfoddol yn symud tunelli o garreg  - nail ai’n eu cario nhw ein hunain neu yn eu cludo gyda cherbydau a helicopters.’

" ’Dan ni’n gofyn i bawb sy’n edmygu ac yn mwynhau harddwch Eryri i’n helpu ni i drwsio’r llwybrau a fydd yn sicrhau bod Eyrri’n parhau i edrych yn anhygoel am flynyddoedd mawr i ddod."
- Rhys Thomas, Ceidwad Eryri

‘Ond mae’r gwaith yn hanfodol er mwyn gwarchod cynefinoedd bregus sy’n gwneud ucheldir Eryri yn ardal mor arbennig ar gyfer bywyd gwyllt.’

‘Os nad oes llwybr i’w weld, neu os bydd llwybr mewn cyflwr gwael bydd cerddwyr yn bownd o grwydro dros y grug a’r llystyfiant cyfagos. Yn y pen draw, mae’r holl sathru yn creu darnau moel o dir a dyna pryd y bydd glaswellt cryfach yn cael cyfle i ledaenu a thagu planhigion bach bregus a diddorol eraill fel y tormaen porffor, y gludlys mwsoglog a phren y ddannoedd.’

‘Dan ni’n gofyn i bawb sy’n edmygu ac yn mwynhau harddwch Eryri i’n helpu ni i drwsio’r llwybrau a fydd yn sicrhau bod Eryri’n parhau i edrych yn anhygoel am flynyddoedd mawr i ddod.'

Bydd y £250,000 yn galluogi ceidwaid a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i wneud y canlynol:

  • Trwsio a gwella cyflwr dwy filltir a hanner o lwybrau Eryri (ar gyfartaledd mae’n costio £180 i adeiladu un fedr yn unig o lwybr troed)
  • Gwarchod bywyd gwyllt bregus Eryri, fel Chwilen yr Wyddfa sy’n byw ar weundir ucheldirol

Er bod Matthew Rhys, seren ‘The Americans’ a ‘Edge of Love’ yn hannu o Gaerdydd  mae ganddo gysylltiadau teuluol gyda’r ardal hon ac mae’n dotio arni: ‘Dwi’n dal i gael fy swyno gan olygfeydd a synau Eryri. O Lyn Dinas gyda’i hen chwedlau i gopa mawreddog yr Wyddfa – ar draws Nant Gwynant, sy’n un o ddyffrynnoedd mwyaf dramatig Cymru, mae gen i gariad angerddol at y fro hon.’

‘Dwi wedi bod ynghlwm wrth sawl apêl gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn yr ardal hon yn y gorffennol, fel yr un i brynu Llyndy Isaf er lles y genedl a lansiad ysgoloriaeth Llyndy.’

" O weld cymaint y mae’r rhyfeddodau naturiol hyn yn codi calonnau pobl rwy’n benderfynol o gwblhau’r gwaith trwsio pwysig hwn fel y gallwch chi, a nifer fawr o bobl eraill, fwynhau Eryri am genedlaethau i ddod."
- Matthew Rhys, Actor a Llysgennad Apêl Eryri

O weld cymaint y mae’r rhyfeddodau naturiol hyn yn codi calonnau pobl rwy’n benderfynol o gwblhau’r gwaith trwsio pwysig hwn fel y gallwch chi, a nifer fawr o bobl eraill, fwynhau Eryri am genedlaethau i ddod.

‘Dwi’n gwybod bod angen cael cydbwysedd rhwng dyn a natur. Mae cynnal y cydbwysedd hwnnw yn gofyn am adnoddau sy’n galluogi mudiadau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i wneud gwaith mor wych ac i sicrhau bod yr ardaloedd rhyfeddol hyn yn fwy gwydn fel y gall pawb eu mwynhau.’

Cerddwyr yn edmygu’r olygfa ar draws Llyn Ogwen tuag at Gwm Idwal. Y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd, Eryri
Cerddwyr yn edmygu’r olygfa ar draws Llyn Ogwen tuag at Gwm Idwal. Y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd, Eryri

Mae’r ardal yn gartref i fywyd gwyllt prin fel Brwynddail y Mynydd, Mwyalchen y Mynydd a Chwilen yr Wyddfa. 

Gyda chefnogaeth pobl fel chi, sy’n caru’r rhan unigryw hon o’r byd gallwn gwblhau’r gwaith, cam wrth gam, carreg wrth garreg, un llwybr ar ôl y llall. A wnewch chi ein helpu i adfer llwybrau Eryri er mwyn gwarchod byd natur hynod yr ucheldir hwn rhag cael ei niweidio ymhellach?