Y Gegin Newydd
Ychwanegwyd adain ogleddol y gegin yng nghanol y 19eg ganrif gan y teulu Lewis.
Pan ddaeth y tŷ i feddiant y chwiorydd Keating, byddent yn defnyddio’r gegin fel ystafell iwtiliti yn bennaf. Serch hynny, fe wnaethon nhw osod sinc lechi a stôf baraffîn Valor ynddi – ‘doedd dim trydan ym Mhlas yn Rhiw hyd yn oed yn yr 20fed ganrif!
Y grisiau tro
Ar hyd y blynyddoedd mae’n debyg bod cryn drafod wedi bod ynglŷn â lleoliad y grisiau yn y tŷ, ymhlith y teulu Lewis, y teulu Roberts, a'r chwiorydd Keating.
Heddiw mae’r grisiau’n sefyll yng nghanol y tŷ, ond mae'r grisiau isaf yn rhai cerrig a'r rhai uchaf o dderw. Mae hyn oherwydd bod lleithder wedi pydru gwaelod y grisiau, a bu'n rhaid i Syr Clough eu hail-adeiladu.
Roedd y grisiau blaenorol yn dyddio nôl i ddechrau'r 17eg ganrif pan adeiladwyd y tŷ gwreiddiol. Cafodd y rhain eu cau yn y 1820au pan adeiladwyd y grisiau newydd.
Y cwpwrdd meddyginiaeth
Roedd gan y chwiorydd Keating gwpwrdd meddyginiaeth â stoc dda o dabledi, hufenau a diferion i drin yr amrywiaeth o anhwylderau a ddioddefwyd ganddynt ar hyd y blynyddoedd.
Roedd hefyd yn cynnwys cynheswr bwyd o ddechrau'r 1900au. Mae’n bosib fod Honora wedi defnyddio hwn yn ystod ei gyrfa fel nyrs.