Taith forol Porthdinllaen ar Benrhyn Llŷn
Ar y daith hon cewch olygfeydd hyfryd i bob cyfeiriad wrth i chi ddilyn y llwybr ar hyd pentir sy’n hafan ragorol i fywyd gwyllt.

Dechrau:
Maes parcio ym Morfa Nefyn, cyf grid: SH281406
1
Ewch i ben draw'r maes parcio, lle cewch olygfeydd gwych ar draws y bae i gyfeiriad Pistyll a Threfor. Safai gwaith brics ar y safle hwn am 40 mlynedd; daeth i ben yn 1906. Ewch ymlaen i lawr i’r traeth. Ar y trai gallwch weld gweddillion jeti’r gwaith brics.
2
Trowch i’r chwith at y tywod a dilynwch y traeth am oddeutu hanner milltir (0.8km) nes dod at amddiffynfeydd môr heb eu gorffen. Adeiladwyd y rhain gan y teulu Matthews, perchnogion Stad Cefn Amwlch. Daeth y project i ben pan gychwynnodd y rhyfel yn 1914.
3
Ewch ymlaen ar hyd y tywod nes cyrraedd tafod o dir sy’n gwthio allan i’r traeth. Defnyddiwyd y safle hwn ar gyfer adeiladu llongau yn yr 1830au a’r 40au, pan oedd diwydiant llechi Caernarfon yn ei anterth.
Gwenoliaid y glennydd
Ar hyd adran 3 o’r daith, mae gwenoliaid y glennydd yn nythu mewn tyllau yn wyneb y clogwyn rhwng mis Ebrill a chanol mis Medi.
4
Ewch ymlaen o amgylch y pentir tuag at bentref bach Porthdinllaen a thafarn amlwg Tŷ Coch. Y bwriad gwreiddiol oedd creu porthladd pwysig ym Mhorthdinllaen, gyda’r Whitehall (yr adeilad mawr cyn Tŷ Coch) fel gwesty. Mae’r Tŷ Coch ei hun wedi bod yn dafarn boblogaidd ers bron i ddwy ganrif.
Tafarn Tŷ Coch
Ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed enw’r dafarnwraig oedd Mrs Jones. Roedd yn ei defnyddio fel ysgol breifat fechan i ferched. Er ei bod hefyd yn gweithio fel harbwr feistr Porthdinllaen llwyddodd i fagu chwech o blant.
5
Wrth i chi gerdded o flaen Tŷ Coch edrychwch ar hyd llinell y llanw am wellt y gamlas wedi ei olchi i’r traeth.
Gwellt y gamlas
Mae gwellt y gamlas morol - gallwch ei weld yn adran 5 o’r daith - wedi prinhau cryn dipyn yng Ngogledd yr Atlantig dros y 70 mlynedd diwethaf. Mae gwellt y gamlas yn ddefnyddiol iawn gan ei fod yn darparu cynefinoedd a bwyd i lu o bysgod, crancod a chregyn bylchog.
6
Ewch ymlaen heibio Caban Griff (man gwybodaeth bach) ar hyd y llwybr troed sy’n arwain ar draws y creigiau. Edrychwch yn y pyllau creigiog wrth fynd heibio, a chwiliwch am forloi llwyd, sy’n chwilio am bysgod ar hyd y rhan hon o’r arfordir.
7
Dringwch y llethr serth heibio gorsaf y bad achub ac i’r cwrs golff. O’r fan hon cewch olygfa wych ar draws y bae.
8
Dilynwch y trac yn ôl dros y cwrs golff tuag at y tir mawr. Wedi i chi gyrraedd prif adeilad y cwrs golff, ewch ymlaen drwy faes parcio’r cwrs golff yn ôl tuag at Forfa Nefyn. Trowch i’r chwith i faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle cychwynnodd eich taith.
Diwedd:
Maes parcio ym Morfa Nefyn, cyf grid: SH281406