Taith gylchol Southgate, Hunts Bay a Phwll Du
Mae’r arfordir ar hyd y rhan hon o Dde Gŵyr yn hynod o bwysig oherwydd y planhigion sy’n ffynnu yn y glaswelltir calchfaen. Un blodyn yn arbennig i chwilio amdano yw llysiau’r bystwn melyn. Dim ond yn yr ardal hon mae’n tyfu.

Dechrau:
Mae parcio Southgate, cyfeirnod grid: SS554874
1
Dechreuwch gyda chaban maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar eich llaw dde, a cherdded ar hyd y llwybr am tua milltir (1.6km). Ar ddiwrnod clir mae golygfeydd ysblennydd i’w gweld ar draws Môr Hafren i Wlad yr Haf a Dyfnaint.
Glaswelltir Calchfaen
Mae’r arfordir ar hyd y rhan hon o Dde Gŵyr yn hynod o bwysig oherwydd y planhigion sy’n ffynnu yn y glaswelltir calchfaen. Un blodyn yn arbennig i chwilio amdano yw llysiau’r bystwn melyn; dyma’r unig le yn y Deyrnas Unedig mae’n tyfu.
2
Pan gyrhaeddwch chi Hunts Farm trowch i’r dde at lwybr yr arfordir, sydd ag arwydd i Ben Pwll Du. Bydd hwn yn eich arwain i fyny ychydig o risiau a bydd wal ar y chwith i chi.
Hunts Bay, De Gŵyr
Creigiau mawr a graean bras sydd ym Mae Hunts, ond tywod oedd yn ei orchuddio unwaith.
3
Pan ewch heibio i bwll bach o ddŵr ar y chwith chwiliwch am y llwybr sy’n mynd i’r dde a dringwch i fyny’r rhiw gan gadw’r ffens ar y chwith. Ar ôl cyrraedd top y rhiw, edrychwch am y cloddiau a’r ffosydd - y cyfan sy’n weddill o gaer bentir o Oes yr Haearn.
4
Mae High Pennard yn un o gyfres o gaerau pentir sydd wedi eu lleoli’n afreolaidd ar hyd arfordir De Gŵyr. Mae crochenwaith yn dyddio nôl i’r ganrif gyntaf neu’r ail ganrif OC wedi ei ddarganfod yma.
5
Ewch ymlaen ar hyd llwybr yr arfordir, gan fynd drwy’r eithin ac o amgylch y pentir.
Bae Pwll Du
Roedd y bae cysgodol hwn unwaith yn hoff leoliad i smyglwyr, oherwydd gallent ddiflannu’n sydyn i mewn i’r dyffryn coediog allan o olwg pawb. Roedd y bae hefyd yn chwarel carreg galch hyd at 1902, ac yn allforio calchfaen i ogledd Dyfnaint.
6
Rydych chi nawr yn sefyll uwch ben clogwyn sy’n cael ei adnabod fel Graves End. Fe gafodd ei enw gan ei fod yn agos i’r fan lle drylliwyd llong y ‘Caesar’ yn 1760. Llong y Llynges oedd y ‘Caesar’ ac roedd yn gyfrifol am wneud gwaith ‘press gang’, gan orfodi unigolion anffodus a diniwed i ddod i weithio i’r Llynges Frenhinol. Pan suddodd y Caesar roedd mwyafrif ei chriw anfodlon wedi eu cloi o dan ei bwrdd, a bu farw’r rhan fwyaf ar y creigiau. Claddwyd y morwyr mewn un bedd mawr yn Graves End.
Diwedd:
Mae parcio Southgate, cyfeirnod grid: SS554874