Dewch ar daith fer o amgylch y llyn addurnol yn Ystad Dolmelynllyn. Mae’r llwybr cylchol yn cynnwys llwyfannau gwylio sy’n ymestyn allan dros ymyl y dŵr. Mae’n lle gwych i wylio bywyd gwyllt ac mae wedi cael ei ddatblygu â hygyrchedd mewn golwg, felly mae’n berffaith ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.
Darganfyddwch lynnoedd Cregennan ar lethrau gogleddol Cader Idris, tua 800 troedfedd uwchben lefel y môr. Ewch am dro o gwmpas llynnoedd naturiol hyn, neu ewch fyny Pared y Cefn Hir i fwynhau golygfeydd panoramig ysblennydd dros y mynyddoedd a Moryd Mawddach.