Cregennan
Mae’r amrywiaeth dda o gynefinoedd yng Nghregennan yn golygu bod yma hefyd gyfoeth o fywyd gwyllt.
Mae stad Cregennan yn cynnwys dwy fferm ddefaid a gwartheg. Mae’r caeau bychain gyda’u waliau cerrig sych, ynghyd â’r ffridd hyfryd gyda’i gweundir sych a gwlyb a’i choed gwasgaredig, yn cyfrannu’n fawr at harddwch y dirwedd yn yr ardal hon.
Mae Cregennan a Phared y Cefn Hir yn cwmpasu safle daearegol o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae wedi cael ei ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Mae amrywiaeth o greigiau gwahanol yn yr ardal, yn cynnwys creigiau gwaddodol sy’n llawn ffosiliau morol a chreigiau folcanig. Mae’r creigiau folcanig yn cynnwys rhai a ffurfiwyd wrth i lafa oeri’n sydyn ar yr wyneb a rhai a ffurfiwyd wrth i’r graig dawdd (y ‘magma’) oeri’n arafach dan yr wyneb.
Mae’r ardal hon yn bwysig ar gyfer astudio gweithgaredd folacanig yn ystod y cyfnod Ordoficaidd cynnar yn Ne Eryri. Mae digon o ddiddordeb botanegol yma hefyd ac mae rhai planhigion prin i’w gweld fel y tormaen llydandroed, eurinllys y gors a briwydd y fign.
Dinas Oleu
Bryn sy’n llawn llwyni eithin, gydag ardaloedd bychain o goed masarn a derw yw Dinas Oleu. Yn y mannau mwy agored mae awelon cynnes yn creu cynefin addas ar gyfer pig-y-crëyr arfor a’r feillionen rychog.
Mae mwsoglau a llysiau’r afu prin wedi cael eu cofnodi yma. Mae gweundir i’w weld yng Nghae Fadog, drws nesaf at Dinas Oleu. Mae hwn yn gynefin gweddol brin ac mae’n cyfrannu at bwysigrwydd yr ardal.
Ymhlith y planhigion mwy cyffredin sy’n tyfu yma mae pysen-y-ceirw a theim gwyllt.