Bele’r Coed yn dychwelyd i goedwig yn Eryri

Datganiad i'r wasg
Cyhoeddwyd : 04 Jun 2019 Diweddariad diwethaf : 07 Jun 2019

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn croesawu bele’r coed yn ôl i goedwig law Geltaidd Dolmelynllyn, Eryri am y tro cyntaf ers canrif.

Er mwyn ceisio annog poblogaethau cyfagos o bele’r coed i ehangu eu gorwelion, bu ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent i drefnu picnics ar gyfer y creaduriaid yng nghoetir llydanddail Dolmelynllyn.

Roedd y fwydlen yn cynnwys eu ffefrynnau, jam ac wyau (y gallant eu harogleuo filltiroedd i ffwrdd), a defnyddiwyd camerâu synhwyro symudiad i geisio ffilmio te-partis y creaduriaid bach swil.

Er mwyn adnabod beleod unigol, caiff y ‘picnic’ ei hongian 50cm o’r llawr fel eu bod yn gorfod sefyll ar ddwy goes i’w gyrraedd.  Fel hyn, gall y camera ddal yr hyn y gellir ei ddisgrifio fel ‘pasbort y bele’. Mae gan bob bele farciau unigryw ar y frest. Mae’r ‘bib’ hwn yn helpu arbenigwyr yn Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent i adnabod beleod unigol o blith y 51 a symudwyd, o dan drwydded, o’r Alban i Ganolbarth Cymru.

Dywedodd Sabine Nouvet, Ecolegydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri, “Bu’n wych cael cip arnyn nhw yn Nolmelynllyn mor fuan ar ôl gosod y camerâu. Mae’n glod i waith rheoli ac iechyd y coetir ac i’r bartneriaeth gynhyrchiol ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent.”

Mae coetiroedd Dolmelynllyn yn enwog fel un o’r mannau gorau yn Ewrop ar gyfer cennau a bryoffytau ac maent yn cynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Ganllwyd. Eisoes, mae’r ardal yn hafan i greaduriaid prin fel y gwybedog brith a’r ystlum pedol lleiaf. Daliwyd ffwlbart a bwch y danas gan y camerâu hefyd.

Dywedodd Josie Bridges, Swyddog Prosiect Bele’r Coed, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent:  “Mae’n wych clywed bod beleod yn ehangu eu cynefin i safleoedd newydd fel Dolmelynllyn. Rydym yn chwilio am ragor o wirfoddolwyr i helpu ag arolwg newydd ac i gasglu rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae’r beleod yn lledaenu i ardaloedd newydd yng Nghymru a’r Gororau.”

“A ninnau’n clywed mwy a mwy am yr argyfwng ecolegol a’r ffaith ein bod yn colli llawer iawn o rywogaethau, mae’n galonogol iawn clywed hanes mor gadarnhaol am rywogaeth frodorol yng Nghymru. Mae’n dangos y gall cynefinoedd iachus gynnal cyfoeth o fywyd gwyllt,” meddai Sabine.

Nid yw coetiroedd fel Dolmelynllyn mor gyffredin ag y buont a dyna pam y mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gynlluniau uchelgeisiol i sicrhau bod rhagor o dir Cymru’n denu byd natur.

“Dydyn ni ddim yn dweud y dylid cael popeth ym mhobman ond mae angen rhywle ar gyfer popeth. Mae gwybod bod gennym feleod yma yn gwneud i’r tir deimlo ychydig bach yn fwy gwyllt a dirgel a chyffrous,” meddai Sabine.

Ymhen amser, mae’r elusen gadwraeth yn gobeithio ac yn disgwyl y bydd y bele’n magu unwaith eto ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan fynd ymlaen i feithrin poblogaeth iach a chynaliadwy. Felly, efallai un diwrnod y cewch chi gip ar y creadur bach swil wrth fynd am dro i’r coed.