Taith Dinas Oleu Abermaw
Mae’r daith hon yn mynd â chi o ganol tref Abermaw trwy strydoedd troellog, serth a chul yr Hen Dref ac i fyny at gopa eithinog Dinas Oleu. Wrth i chi ddringo gallwch fwynhau golygfeydd dramatig dros Aber Mawddach a Bae Ceredigion ac i gyfeiriad Pen Llŷn. Mae’r daith yn llawn hanes a byddwch yn cerdded ar y darn o dir cyntaf i gael ei roi i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1895 gan Mrs Fanny Talbot.


Dechrau:
Gorsaf Drenau Abermaw
1
Ewch ar hyd Ffordd yr Orsaf, gyferbyn â mynedfa’r orsaf, i mewn i Sgwâr Talbot.
2
Trowch i’r dde i lawr y brif stryd ac ar ôl tua 100 llath fe welwch arwydd brown yr Ymddiriedolaeth yn dangos y ffordd i fyny i Ddinas Oleu. Croeswch y ffordd a throi i fyny stryd gefn cul (Ffordd Dinas Oleu). Cerddwch i fyny’r allt, gan gadw i’r dde i ddechrau, a dilynwch saethau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym mhob cyffordd nes i chi gyrraedd golygfan sy’n edrych dros y dref.
3
Dilynwch y llwybr serth heibio arwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Daliwch i fynd yn syth i fyny’r allt, gan anwybyddu’r llwybr i’r dde yn y fforch gyntaf. Mae’r llwybr yn culhau ac mae yna gwymp serth i’r chwith felly cymerwch ofal. Ychydig ymhellach ymlaen fe ddowch at yr ‘ystafell fyw awyr agored’ mewn encil yn y graig ar yr ochr dde.
4
Ewch yn eich blaen, gan ddal i ddringo a dilyn y llwybr igam-ogam. Trowch i’r chwith yn y fan lle mae’r llwybr yn rhannu eto. Ar ôl ychydig fe ddowch at risiau sy’n mynd i lawr yn serth am bellter byr ac yna, o dan ychydig o goed, mae’r llwybr yn rhannu eto. Trowch i’r dde ac yna dilynwch y llwybr serth i fyny’r allt eto nes i chi ddod at gofeb canmlwyddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y copa.
5
O’r gofeb ewch yn eich blaen ar hyd yr un llwybr a ddilynoch i gyrraedd y copa. Mae’r llwybr i ddechrau yn weddol wastad cyn disgyn yn eithaf serth. Cadwch i’r chwith wrth y fforch nes i chi ddod at giât sydd â’r arwyddbost ‘Bedd y Ffrancwr yn Unig”. Ewch drwy’r giât a dilynwch y llwybr am bellter byr, gan basio drwy giât arall a chario ‘mlaen nes i chi weld y bedd yn union o’ch blaen.
6
Ewch yn ôl at y giât gyntaf a’r tro hwn dilynwch y llwybr i lawr, gan ddisgyn yn serth, nes i chi gyrraedd yr olygfan gyntaf (gweler cam dau uchod). Nawr dilynwch y lôn i’r chwith o’r llwybr a ddringoch. Mae’r lôn yn mynd â chi heibio Ty’n Ffynnon lle bu Fanny Talbot yn byw nes ei marwolaeth yn 1917. Sylwch ar y plac coffa sydd wedi ei gerfio mewn llechen ar y wâl heibio i’w thŷ.
7
Byddwch nawr yn dilyn nifer o lwybrau a lonydd cul a serth sy’n disgyn trwy fythynnod blith draphlith hen dref Abermaw. Mae yna nifer o lwybrau y gallwch eu dilyn, ond os cadwch i’r chwith byddwch yn pasio heibio’r bythynnod Ruskin mwy amlwg.
8
Daliwch i fynd drwy’r rhodfeydd cul nes i chi gyrraedd y Brif Stryd trwy’r dref. Trowch i’r dde ar hyd y stryd a cherddwch yn ôl i Sgwâr Talbot a mynedfa’r Orsaf lle y dechreuodd y daith.
Diwedd:
Gorsaf Drenau Abermaw