Tŷ Tredegar: y Straehon

Olga Dolgorouky, tywysoges o Rwsia a fu’n nyrs yn ystod y rhyfel

Fel rhan o ddathliadau Menywod a Phŵer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, eleni byddwn yn sicrhau cydraddoldeb yn y straeon rydym yn eu hadrodd yn Nhŷ Tredegar drwy dalu sylw i’r menywod sydd wedi siapio ein hanes.

Gyda mwy na 500 mlynedd o hanes, mae Tŷ Tredegar wedi cael ei basio rhwng dwylo cenedlaethau o ddynion y teulu Morgan am lawer o’r Oes Fodern. Rydym yn llawn gwybodaeth am y llinach, o’r straeon am uchelgeisiau William ar gyfer yr ystâd ac anturiaethau Godfrey yn Rhyfel Crimea i gasgliad rhyfeddol Evan o anifeiliaid egsotig.

Ond dim ond hanner y stori yw hynny...

Nid yw hanesion y menywod a fu’n byw a gweithio ar yr ystâd mor amlwg, er bod llawer ohonynt yn hanfodol i ffyniant y teulu Morgan wrth i’w dylanwad a’u pŵer yn ne Cymru fynd o nerth i nerth.

Byddai llawer o’r menywod yn dod â gwaddolion mawr gyda nhw i’w priodasau, gan alluogi i deyrnlin y Morganiaid dyfu a ffynnu.

Gwnaeth un frwydro yn y llysoedd dros hawl ei merch i etifeddu’r ystâd, tra bod un arall wedi symud yr holl ffordd o Rwsia a gwirfoddoli fel nyrs yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan ddod yn boblogaidd iawn ymysg gweithwyr yr ystâd a’r gymuned ehangach fel ei gilydd.

Maud Williams ac Alice Stanbridge, Meistres Tŷ a Morwyn yn Nhŷ Tredegar
Maud Williams ac Alice Stanbridge, Meistres Tŷ a Morwyn yn Nhŷ Tredegar
Maud Williams ac Alice Stanbridge, Meistres Tŷ a Morwyn yn Nhŷ Tredegar

Yn anffodus, mae’n ddigon posibl na allwn fyth ateb yr holl gwestiynau sydd gennym am eu bywydau. Po bellaf y teithiwn drwy hanes, yr anoddaf yw dod â’r darnau ynghyd ynghylch bywydau’r menywod yr oedd Tŷ Tredegar yn gartref iddynt.

Fodd bynnag, drwy ddilyn olion eu traed wrth i chi grwydro’r tŷ, gallwch gael cip ar y gorffennol a dychmygu sut y byddent wedi treulio eu dyddiau yma.

Rydym yn edrych ymlaen at gael rhannu’r hanesion cudd hyn gyda chi a sicrhau bod y grŵp yma o wragedd dylanwadol, arloesol ac ymroddedig yn cael eu cydnabod yn awr, hyd yn oed os na chawsant yn eu cydnabod yn eu hoes eu hunain.

Paentiad o Violet Mundy ar gefn ceffyl wrth ochr ei thad

Yn ei sgidiau hi: cerdded yn ôl traed menywod Tŷ Tredegar  

Fel rhan o brosiect Straehon Tŷ Tredegar, rydym yn edrych ar fywydau dwy fenyw yr oedd Tŷ Tredegar yn gartref iddynt ar ddechrau’r 20fed ganrif.

Upcoming events

Easter holidays

Thu 25 Apr 2019
10:30-16:00
The promise of springtime and warmer weather is a great reason to get out and about this Easter.

Wake up with Tredegar House

Thu 25 Apr 2019
10:30-16:00
After a sleepy winter Tredegar House is springing into to life.

Kayaking on the lake

Sat 04 May 2019
10:30-16:00
Head out on our beautiful lake for a kayaking session this Bank Holiday weekend. In partnership with Channel Kayaks, we're helping you to see Tredegar House from a unique perspective.

May Bank Holiday Weekend

Sat 04 May 2019
10:30-16:00
Gather the family and reconnect with nature this Bank Holiday. The gardens will be in full bloom, providing the perfect backdrop for a weekend of outdoor exploration.

Explorer backpacks

Sat 04 May 2019
11:00-16:00
Get closer to nature with our handy one-stop shop for young explorers.

Open archive

Tue 07 May 2019
11:00-14:00
See snippets from our archives as we open up access to the mansion house library.