Bydd gardd synhwyrau’n cael ei chreu yn yr ardal segur ger adeilad y Golchdy, a fydd yn llawn perlysiau a phlanhigion persawrus a chyffyrddadwy, ynghyd â gardd dawel a fydd yn lle i feddwl ac ystyried.
Bydd ardal ar gyfer gwelyau uchel hefyd yn sicrhau bod defnyddwyr cadair olwyn yn gallu profi’r manteision o arddio.
Bydd y gerddi’n cael eu defnyddio’n bennaf gan grwpiau cymunedol lleol, ond byddant hefyd ar agor i’r cyhoedd ar ddiwrnodau penodol yn ystod yr wythnos.
Crwydro Coedwigoedd er Llesiant
Mae Crwydro Coedwigoedd er Llesiant yn brosiect cydweithredol rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Growing Space, Cyswllt Cymuned Dyffryn a Cadwch Gymru’n Daclus i ddatblygu coetir a mannau gwyrdd cynaliadwy sy’n cael eu rheoli gan y gymuned yn ystâd Dyffryn.
Wedi’i ariannu drwy raglen Creu Eich Lle y Loteri FAWR, nod y prosiect yw gwella lles cymdeithasol, corfforol a meddyliol y teuluoedd a’r unigolion hynny sy’n byw yn Nyffryn a’r cyffiniau.
Rydym wrth ein bodd fod ein rhandir a’n gerddi cymunedol yn rhan o’r prosiect ehangach hwn ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’n partneriaid dros y blynyddoedd nesaf i wireddu ein huchelgeisiau.