Skip to content

Taith coetir Castell y Waun

Cymru

Cwpwl (dau ddyn) yn cerdded law yn llaw ar hyd llwybr pridd trwy goetir gwyrdd llachar y gwanwyn, wedi eu hamgylchynu gan goed yng Nghastell y Waun, Cymru.
Taith coetir Castell y Waun, Wrecsam | © National Trust Images/Trevor Ray Hart

Ar y daith gylchol trwy goetir 2.5 milltir hawdd hon cewch olygfeydd gwych o’r parcdir, a rhywbeth i’ch rhyfeddu yn y canol. Mae ar hyd llwybrau yn bennaf, ond mae’r rhan olaf trwy gaeau agored.

Man cychwyn

Maes parcio Castell y Waun. Cyfeirnod grid: SJ267384

Pa Mor Heriol*

Hygyrchedd**

Llwybr llawn

PellterMilltiroedd: 2.5 (km: 4)
Hyd 40 munud to 1 awr 20 munud
Addas i gŵn***
  1. *Llwybrau graean, gwastad yn bennaf. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Tirwedd. 

  2. **Tir anwastad gyda rhai llethrau a giatiau. 

  3. ***Croeso i gŵn ar dennyn. 

  • Cyfanswm y rhannau: 12

    Cyfanswm y rhannau: 12

    Man cychwyn

    Maes parcio Castell y Waun. Cyfeirnod grid: SJ267384

    Rhan 1

    Gadewch y maes parcio a mynd i fyny’r bryn tua’r castell.

    Rhan 2

    Ewch yn syth ymlaen, heibio ffordd sy’n mynd i’r dde i chi.

    Rhan 3

    Dilynwch y llwybr i’r dde, gydag arwyddion i’r daith goetir.

    Rhan 4

    Mae’r guddfan adar ar y dde i chi, cymrwch gip y tu mewn i weld beth allwch chi ei weld yn y coed.

    Rhan 5

    Cadwch i’r chwith lle mae’r llwybr yn fforchio.

    Rhan 6

    Mae giât o’ch blaen i Goed y Sied Geirw. Naill ai ewch yn syth ymlaen a neidio i bwynt 8, neu dilynwch y llwybr i lawr i’r dde i weld yr hen gastanwydden bêr ym mhwynt 7.

    Rhan 7

    Tua hanner ffordd ar hyd y llwybr ar y chwith i chi fe welwch chi gastanwydden bêr. Trowch yn ôl a dychwelyd at y giât.

    Rhan 8

    Ewch trwy’r giât i Goed y Sied Geirw. Dilynwch y llwybr sydd yn union o’ch blaen trwy’r coed ac i fyny’r llethr. Chwiliwch am lwybr bach ar y dde i chi.

    Rhan 9

    Ym mhen draw’r llwybr hwn fe welwch chi blinth lle'r oedd cerflun o Hercules yn arfer sefyll, yn edrych dros Giatiau Davies ac allanfa’r ystâd. Ar ôl dod o hyd i’r plinth, ewch yn ôl i’r prif lwybr a’i ddilyn trwy Goed y Sied Geirw.

    Rhan 10

    Ewch trwy’r giât sydd yn union o’ch blaen, gan adael Coed y Sied Geirw, a mynd yn syth ar draws y cae gan ddilyn y marcwyr glas.

    Rhan 11

    Pan gyrhaeddwch chi gornel y cae, ewch trwy’r giât mochyn a throi i’r chwith.

    Rhan 12

    Daliwch i fynd yn syth ar hyd y cae gan ddilyn y saethau glas i fyny llethr graddol. Yn y pen draw byddwch yn cerdded ar ha-ha yr ystâd, gyda Choed y Tir Pleser ar y chwith i chi. Daliwch i fynd nes cyrhaeddwch chi giât ger y ffordd at y castell ar y chwith i chi. Er mwyn cwblhau eich taith ewch yn syth ymlaen i ddychwelyd i’r maes parcio.

    Man gorffen

    Maes parcio Castell y Waun. Cyfeirnod grid: SJ267384

    Map llwybr

    Map taith coetir Castell y Waun, Wrecsam
    Map taith coetir Castell y Waun, Wrecsam | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

    Dyna ni, da iawn chi

    Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Castell Y Waun a’r Ardd 

Castell canoloesol odidog Y Mers

Y Waun, Wrecsam

Yn hollol agored heddiw
Golygfa ar draws yr ardd tuag at y castell yng Nghastell y Waun, Wrecsam

Taith gylchol Brwydr Crogen 

Taith gylchol 3 milltir o Gastell y Waun, yn cynnwys rhan fechan o Glawdd Offa a mynd heibio safle Brwydr Crogen.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3 (km: 4.8)
Golygfa o Gastell y Waun yng Nghymru.

Taith Llwyn y Cil yng Nghastell y Waun 

Mae’r daith filltir rwydd yma trwy barcdir a ddyluniwyd yn y 18fed ganrif yng Nghastell y Waun yn cynnig golygfeydd cofiadwy tua gwastadeddau Swydd Gaer ac Amwythig.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Enfys dros y parcdir yng Nghastell y Waun, Wrecsam, Cymru

Taith yr Hen Golff yng Nghastell y Waun 

Mae’r daith gerdded gymedrol 1.2 milltir hon yn mynd â chi i ardal a elwir yn Hen Golff, gyda golygfa gofiadwy o Gastell y Waun ar hanner ffordd.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1.2 (km: 1.92)
Ymwelwyr gyda Chastell y Waun yn y pellter, Cymru

Cysylltwch

Castell Y Waun, Y Waun, Wrecsam, LL14 5AF

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Ymweld ag ystâd Castell y Waun 

Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.

A meadow filled with lush greenery stretches out in the foreground, with the medieval Chirk Castle standing in the background.

Bwyta a siopa yng Nghastell y Waun 

Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.

Cadair bren gyda blanced binc majenta drosti. Mae bwrdd bychan gyda fâs wen, dal yn llawn blodau pinc a channwyll binc wrth ei hochr.

Ymweld â Chastell y Waun gyda’ch ci 

Mae gan Gastell y Waun sgôr o ddwy bawen. Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn i Gastell y Waun. Gall yr ystâd 480 erw fod yn lle gwych i grwydro gyda’ch ci beth bynnag yw’r tywydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ble gallwch chi fynd â’ch ci a ble gallwch chi aros i fwynhau pryd blasus.

Visitors walking in the parkland with their dog at Calke Abbey, Derbyshire

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â Cotswold Outdoor. Dewch i ganfod sut maent yn ein helpu ni i ofalu am leoedd gwerthfawr a'r gostyngiadau arbennig sydd ar gael i gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

A couple are walking outdoors

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Visitors walking in the parkland at Lyme Park, Cheshire

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Two female visitors standing on the rocks at Giant's Causeway, County Antrim

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.