Skip to content

Taith yr Hen Golff yng Nghastell y Waun

Cymru

Ymwelwyr gyda Chastell y Waun yn y pellter, Cymru
Golygfa o’r castell ar ystâd y Waun | © National Trust Images / Paul Harris

Mae’r daith gerdded gymedrol 1.2 milltir hon yn mynd â chi i ardal a elwir yn Hen Golff, gyda golygfa gofiadwy o’r castell ar hanner ffordd yn ogystal â gwastadeddau Swydd Gaer ac Amwythig.

Man cychwyn

Maes parcio Castell y Waun. Cyfeirnod grid: SJ267384

Pa Mor Heriol*

Llwybr llawn

PellterMilltiroedd: 1.2 (km: 1.92)
Hyd 30 munud to 1 awr 10 munud
Addas i gŵn**
  1. *Trwy gaeau yn bennaf a all fod ag anifeiliaid ynddynt. Am ragor o fanylion, edrychwch ar yr adran Tirwedd. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Tirwedd. 

  2. **Croeso i gŵn ar dennyn a dan reolaeth. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Cyfleusterau. 

  • Cyfanswm y rhannau: 6

    Cyfanswm y rhannau: 6

    Man cychwyn

    Maes parcio Castell y Waun. Cyfeirnod grid: SJ267384

    Rhan 1

    Ewch i ochr chwith cefn y prif faes parcio a mynd trwy’r giât.

    Rhan 2

    Cadwch y ffens ar y chwith i chi a dilyn y saethau coch ar draws y cae, gan ddringo tuag at Rose Cottage, sydd o’ch blaen yn Nhyn-y-Groes.

    Rhan 3

    Pan gyrhaeddwch chi’r ffens, ewch trwy’r giât i’r ffordd. Rydych yn gadael yr ystâd yn y fan hon. Gwyliwch am draffig ar y ffordd. Trowch i’r chwith a mynd ymlaen ar hyd y ffordd am tua 30m nes y gwelwch chi arwydd saeth coch arall a giât i gae.

    Rhan 4

    Ewch trwy’r giât a dilyn y llwybr sy’n syth o’ch blaen. Llwybr swyddogol Clawdd Offa yw hwn mewn gwirionedd. Ewch yn syth ymlaen gan ddilyn y saethau coch a mwynhau’r olygfa hardd o’r castell ar y chwith, gyda gwastadeddau Swydd Gaer ac Amwythig tu ôl iddo.

    Ystâd Castell y Waun, Wrecsam
    Ystâd Castell y Waun, Wrecsam | © National Trust Images/Andrew Butler

    Rhan 5

    Ar y chwith i chi byddwch yn dod at giât. Ewch trwyddi, a dilyn y saethau coch trwy’r cae yn ôl i lawr tua Fferm yr ystâd.

    Rhan 6

    Daliwch i fynd i lawr y rhiw trwy’r cae. Ar y chwith fe welwch chi glwstwr o goed o gwmpas dŵr. Coed Jericho yw’r rhain, ac yn y coed mae hen ‘lyn rhew’ yr ystâd, lle byddai blociau o rew yn cael eu torri ar gyfer y tŷ. Ewch ymlaen i lawr y cae at y giât yn y gwaelod, yna dilyn y llwybr yn ôl i’r prif faes parcio i orffen y daith.

    Man gorffen

    Maes parcio Castell y Waun. Cyfeirnod grid: SJ267384

    Map llwybr

    Map taith yr Hen Golff yng Nghastell y Waun
    Map taith yr Hen Golff yng Nghastell y Waun | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

    Dyna ni, da iawn chi

    Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Castell Y Waun a’r Ardd 

Castell canoloesol odidog Y Mers

Y Waun, Wrecsam

Yn hollol agored heddiw
Llun agos o beradl yr Hydref gyda’r castell yn y cefndir yng Nghastell y Waun, Wrecsam

Taith coetir Castell y Waun 

Taith gerdded gylchol hawdd ymhlith y coed a’r caeau agored o gwmpas Castell y Waun yn Wrecsam, Cymru.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 2.5 (km: 4)
Cwpwl (dau ddyn) yn cerdded law yn llaw ar hyd llwybr pridd trwy goetir gwyrdd llachar y gwanwyn, wedi eu hamgylchynu gan goed yng Nghastell y Waun, Cymru.

Taith gylchol Brwydr Crogen 

Taith gylchol 3 milltir o Gastell y Waun, yn cynnwys rhan fechan o Glawdd Offa a mynd heibio safle Brwydr Crogen.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3 (km: 4.8)
Golygfa o Gastell y Waun yng Nghymru.

Taith Llwyn y Cil yng Nghastell y Waun 

Mae’r daith filltir rwydd yma trwy barcdir a ddyluniwyd yn y 18fed ganrif yng Nghastell y Waun yn cynnig golygfeydd cofiadwy tua gwastadeddau Swydd Gaer ac Amwythig.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Enfys dros y parcdir yng Nghastell y Waun, Wrecsam, Cymru

Cysylltwch

Castell Y Waun, Y Waun, Wrecsam, LL14 5AF

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â Cotswold Outdoor. Dewch i ganfod sut maent yn ein helpu ni i ofalu am leoedd gwerthfawr a'r gostyngiadau arbennig sydd ar gael i gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

A couple are walking outdoors

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Two female visitors standing on the rocks at Giant's Causeway, County Antrim

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.

Ymweld ag ystâd Castell y Waun 

Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.

A meadow filled with lush greenery stretches out in the foreground, with the medieval Chirk Castle standing in the background.

Bwyta a siopa yng Nghastell y Waun 

Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.

Cadair bren gyda blanced binc majenta drosti. Mae bwrdd bychan gyda fâs wen, dal yn llawn blodau pinc a channwyll binc wrth ei hochr.

Ymweld â Chastell y Waun gyda’ch ci 

Mae gan Gastell y Waun sgôr o ddwy bawen. Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn i Gastell y Waun. Gall yr ystâd 480 erw fod yn lle gwych i grwydro gyda’ch ci beth bynnag yw’r tywydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ble gallwch chi fynd â’ch ci a ble gallwch chi aros i fwynhau pryd blasus.

Visitors walking in the parkland with their dog at Calke Abbey, Derbyshire

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch.

Visitors walking in the parkland at Lyme Park, Cheshire