Taith Llwyn y Cil yng Nghastell y Waun
Mwynhewch olygfeydd cofiadwy tua gwastadeddau Swydd Gaer ac Amwythig ar y daith filltir o hyd hon trwy barcdir a ddyluniwyd yn y 18fed ganrif yng Nghastell y Waun.
Cyfanswm y camau: 5
Cyfanswm y camau: 5
Man cychwyn
Maes parcio Castell y Waun. Cyfeirnod grid: SJ267384
Cam 1
O’r maes parcio ewch ar i fyny tua’r castell.
Cam 2
Cymrwch y ffordd i’r chwith a dilyn y ffordd droellog heibio’r fynedfa i’r castell.
Cam 3
Bydd Castell y Waun urddasol yn gefnlen i’r daith hon trwy’r hen barc ceirw a amgaewyd yn fuan ar ôl i’r castell gael ei gwblhau yn 1310.
Cam 4
Cerddwch i lawr y bryn tua’r ffordd i mewn a throi ar y llwybr ar y dde i chi. Ewch dros y gamfa (neu trwy’r giât) a dilyn y pyst pennau gwyn tua Llwyn y Cil, lle gwelwch chi hen goed derw hyfryd.
Cam 5
Pan gyrhaeddwch chi’r giât gallwch naill ai fynd trwyddi i’r ffordd, neu droi yn ôl a dilyn yr un llwybr yn ôl at y castell a’r maes parcio. Os gwnewch chi ddal i fynd yn eich blaen, gallwch groesi’r ffordd ac yna mynd dros gamfa a dilyn llwybr i orsaf drên y Waun, ac ymlaen tua’r Waun ei hun. Neu gallwch droi i’r dde a dilyn y ffordd nes y cyrhaeddwch chi’r giatiau Davies. Ewch ymlaen heibio’r giatiau a gallwch ddilyn y ffordd allan yn ôl i’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio Castell y Waun. Cyfeirnod grid: SJ267384
Map llwybr
Taith gylchol Brwydr Crogen
Taith gylchol 3 milltir o Gastell y Waun, yn cynnwys rhan fechan o Glawdd Offa a mynd heibio safle Brwydr Crogen.
Taith coetir Castell y Waun
Taith gerdded gylchol hawdd ymhlith y coed a’r caeau agored o gwmpas Castell y Waun yn Wrecsam, Cymru.
Taith yr Hen Golff yng Nghastell y Waun
Mae’r daith gerdded gymedrol 1.2 milltir hon yn mynd â chi i ardal a elwir yn Hen Golff, gyda golygfa gofiadwy o Gastell y Waun ar hanner ffordd.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Ymweld ag ystâd Castell y Waun
Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.
Bwyta a siopa yng Nghastell y Waun
Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.
Ymweld â Chastell y Waun gyda’ch ci
Mae gan Gastell y Waun sgôr o ddwy bawen. Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn i Gastell y Waun. Gall yr ystâd 480 erw fod yn lle gwych i grwydro gyda’ch ci beth bynnag yw’r tywydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ble gallwch chi fynd â’ch ci a ble gallwch chi aros i fwynhau pryd blasus.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)