Martin's Haven, Sir Benfro
CymruPentir gwyllt godidog gyda chaer o’r Oes Haearn a harbwr caregog bach lle gellir dal cychod i Ynys Sgomer.
Martin's Haven, Marloes, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3BJ

Ll Ma Me Ia Gw Sa Su Agored
Ar gau
Oriau agor ar gyfer 4 Mawrth 2026
Asset Opening time Martin's Haven, Pembrokeshire Gwawr - Cyfnos - Croeso i gŵn
Rhaid cadw cŵn ar dennyn tra byddant yn y Parc Ceirw oherwydd y da byw a’r clogwyni serth
Croeso i gŵn - mwy o wybodaeth- Maes parcio
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’n rhad ac am ddim i aelodau a deiliaid Bathodynnau Glas. Codir tâl ar ymwelwyr nad ydynt yn aelodau. Mae’r signal yn ysbeidiol, felly dewch ag arian mân gyda chi neu lawrlwythwch yr ap JustPark cyn dod draw.
- Pwynt gwefru cerbydau trydan
Ceir man gwefru ceir trydan ym maes parcio Martin’s Haven
- Toiled
I lawr y llithrfa ger yr harbwr
Lleolir y mannau parcio ar gyfer deiliaid bathodynnau glas, ynghyd â’r toiledau agosaf, wrth ymyl y llithrfa. Ceir siop, byrbrydau a thocynnau ar gyfer ymweld â’r ynys yn ‘Lockley Lodge’, a gaiff ei redeg gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Mynediad cul, serth gyda grisiau at lwybr yr arfordir, llwybrau eraill a’r gangwe. Anaddas i gadeiriau olwyn, cerbydau symudedd modur a chadeiriau gwthio, neu os ydych yn ansad ar eich traed.
- Ar y trên
- Mae’r orsaf drenau agosaf yn Hwlffordd, 13 milltir i ffwrdd. Gellir archebu tacsi ymlaen llaw.
- Ar y ffordd
- Ar y B4327 o Hwlffordd, dilynwch arwyddion ar gyfer Marloes a Martin’s Haven. Gyrrwch yn syth trwy bentref Marloes er mwyn cyrraedd Martin’s Haven – dilynwch yr arwyddion.Parcio: Parcio: Codir tâl parcio. Parcio am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bydd tocynnau dydd yn ddilys ar y diwrnod hwnnw yn holl feysydd parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Sir Benfro.Sat Nav: Llywio Lloeren: Martin’s Haven SA62 3BJ
- Ar droed
- Llwybr Arfordir Sir Benfro
- Ar fws
- Mae’r Pâl Gwibio yn rhedeg o Dyddewi i bentref Marloes o 24 Mai - 28 Medi 2025. Mae’r amserlen ar gael ar-lein. Mae'r bws Fflecsi yn gweithredu o fewn parth penodol ac ar gael unrhyw bryd rhwng 7.30am a 6.30pm (Dydd Llun i ddydd Sadwrn). Gall cwsmeriaid archebu lle drwy lawrlwytho’r Ap Fflecsi. Fel dewis amgen gallwch archebu drwy ffonio 0300 234 0300 (Dydd Llun - Dydd Sadwrn: 7am – 7pm/Dydd Sul: 9am – 6pm). Gallwch weld yr amserlenni ar-lein drwy https://tfw.wales/fflecsi/locations/pembrokeshire
- Beicio
- Gallwch weld llwybrau beicio lleol ar wefan y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Martin's Haven, Marloes, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3BJ
Cynllunio eich ymweliad
Beth sy'n digwydd yn Haven Martins
Teithiau i wylio morloi back ym Haven Martins

Ymweld â chefn gwlad Sir Benfro gyda'ch ci
Mae ein lleoedd gwledig ac arfordirol yn Sir Benfro wedi'u graddio ag un bawen. Dysgwch fwy am ddod â'ch ci i Sir Benfro. Dewch i ddianc i ymyl gorllewinol Cymru ac archwiliwch dirwedd arfordirol ddramatig gyda'ch cyfaill pedair coes wrth eich ochr.

Seal-spotting responsibly in West Wales
Follow these guidelines and tips for responsible seal-spotting to help keep seals safe when out on the coast.

Uchafbwyntiau
Harbwr Hanesyddol
Harbwr bach sy’n wynebu’r gogledd lle gellir dal y cwch i Ynys Sgomer.
Pentir Gwyllt (Parc Ceirw)
Rhostir arfordirol gyda chaer o’r Oes Haearn gerllaw Martin’s Haven yn edrych i gyfeiriad Ynys Sgomer. Er gwaethaf yr enw, nid oes ceirw i’w cael yno. Mae’r safle wedi’i ddynodi’n SoDdGA, yn ACA ac yn AGA.
Parth Cadwraeth Morol Sgomer
Parth Cadwraeth Morol sy’n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Carreg ganoloesol
Carreg arysgrifenedig o’r nawfed neu’r ddegfed ganrif a ddefnyddid fel man gweddïo i deithwyr gerllaw’r harbwr.
Pethau i'w gweld a'u gwneud
Ymweld â Thraeth a Chors Marloes a Martins Haven
Dewch yn nes at natur drwy wylio’r adar ar y Gors a rhyfeddwch at y golygfeydd glan môr godidog ar draeth Marloes. Neu mentrwch ymhellach a darganfod yr ynysoedd oddi ar y Penrhyn.

Prif lwybrau
Martin’s Haven – llwybr y parc ceirw
Llwybr byr ond trawiadol o gwmpas Penrhyn Marloes gyda llawer o forloi (rhai bach yn yr hydref), grug a blodau gwyllt, creigiau campus a golygfeydd o’r môr.

Taith gerdded arfordirol Penrhyn Marloes
Llwybr cylchol gyda golygfeydd hyfryd o arfordir Sir Benfro sy’n berffaith ar gyfer gwylio bywyd gwyllt ar y tir a’r môr. A pheidiwch â cholli gweddillion caerau o Oes yr Haearn ar eich taith.

Lleoedd i aros

Gupton Bunkhouse
A short walk from golden beaches, this basic and comfortable lodge is great for exploring the Pembrokeshire coast and enjoying the county's many activities.

Little Milford Farmhouse
A riverside farmhouse surrounded by woodland.

Little Milford Lodge
A single-storey cottage in the Cleddau woodlands, close to riverside walks and Haverfordwest.
Digwyddiadau i ddod
Mae'n ddrwg gennym, nid oes unrhyw ddigwyddiadau i ddod yn y lle hwn
Ynghylch Martin's Haven, Sir Benfro
Mae’r pentir gwyllt godidog hwn gyda’i olygfeydd panoramig ysblennydd o Fae Sain Ffraid, ynghyd â’i harbwr bach, yn fan gwych i archwilio Ynys Sgomer, yn ogystal â’r Palod a’r Adar Drycin Manaw sy’n ymweld â’r ynys. Mae Martin’s Haven yn croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, a ddaw yma i weld yr adar rhyfeddol hyn.
Mae’r ddaeareg yn ysblennydd hefyd, yn cynnwys tywodfeini a chreigiau folcanig gyda phlygion, ffawtiau a chreigiau danheddog. Ers talwm, roedd y Parc Ceirw yn gaer arfordirol o’r Oes Haearn, a gellir gweld yr olion hyd heddiw. Mae’r enw’n tarddu o ymdrech aflwyddiannus i sefydlu parc ceirw ar droad yr ugeinfed ganrif. Heddiw, caiff y pentir ei bori gan wartheg, ac mae’r clogwyni’n lle gwych i wylio morloi yn ystod y tymor bridio.
Ein gwaith
Ein gwaith cadwraeth ar arfordir Sir Benfro
Bob ugain mlynedd cynhelir cyfrifiad i asesu maint y nythfa o adar drycin Manaw ar ynysoedd oddi ar arfordir Sir Benfro. Dangosodd yr arolwg diweddaraf ganlyniadau calonogol iawn.
