Llwybr nadroedd, morluniau a llongddrylliadau Rhosili
Dilynwch y gylchdaith hamddenol hon heibio i siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ar hyd llwybr clogwyn sy’n cynnig golygfeydd o un o draethau gorau Cymru. Ar y ffordd fe welwch longddrylliad yr Helvetia (pan mae’r llanw ar drai), caer o Oes yr Haearn, ac lanwol y Weryn.
Amseroedd llanw
Mae Ynys Weryn yn ynys lanwol – mae modd ei chyrraedd am tua 2½ awr y naill ochr i’r trai. Mae amseroedd llanw i’w gweld yng ngwylfa Sefydliad Cenedlaethol Gwylwyr y Glannau (NCI) – cewch gyngor yma ar yr amser gorau i groesi.
Cyfanswm y camau: 7
Cyfanswm y camau: 7
Man cychwyn
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Rhosili, cyfeirnod grid: SS413881
Cam 1
O faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda thraeth Rhosili a gwesty Worm’s Head i’r dde ohonoch, cerddwch tuag at siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (ar eich chwith). Mae’r siop yn un o hen fythynnod gwylwyr y glannau.
Cam 2
Pan gyrhaeddwch y siop, fe welwch draeth 3-milltir Rhosili i’r dde ohonoch.
Cam 3
Ewch heibio’r siop a thrwy gât i barhau ar hyd y trac, gyda’r clogwyni i’r dde ohonoch.
Cam 4
I’r dde o’r llwybr fe welwch gyfres o dwmpathau. Dyma weddillion un o’r 32 (o leiaf) o gaerau Oes yr Haearn sydd i’w gweld ym Mhenrhyn Gŵyr.
Cam 5
I’r chwith o’r trac mae wal gerrig yn amgáu system ‘cae lleiniau’ agored ganoloesol o’r enw The Vile.
Cam 6
Lle mae’r llwybr ag arwyneb yn troi’n sydyn i’r chwith, cerddwch yn syth ymlaen, gan ddilyn llwybr glaswellt llydan tuag at wylfa Sefydliad Cenedlaethol Gwylwyr y Glannau (NCI) lle cewch fwynhau golygfeydd trawiadol o Ynys Weryn. Adeiladwyd yr wylfa yn oes Fictoria, ac mae bellach yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr.
Cam 7
O wylfa’r NCI gallwch groesi’r Sarn i’r Weryn i ymestyn eich taith (cofiwch wirio’r amseroedd llanw) neu ddychwelyd i’r dechrau ar hyd llwybr y clogwyn.
Man gorffen
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Rhosili, cyfeirnod grid: SS413881
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Taith gerdded pentir Rhosili
Ewch am dro ar hyd un o glogwyni enwocaf Cymru, gyda golygfeydd ysgubol o dywod euraidd Rhosili a chreigiau calchfaen geirwon Arfordir De Gŵyr.
Llwybr Southgate i Fae’r Tri Chlogwyn
Mwynhewch olygfeydd trawiadol dros Benrhyn Gŵyr a De Penfro ar y llwybr hwn o Southgate i Fae’r Tri Chlogwyn.
Taith gerdded Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Darganfyddwch ogofâu, afonydd tanddaearol a choetir hynafol ar y llwybr heriol hwn drwy ddyffryn cudd ym Mhenrhyn Gŵyr, Cymru.
Cylchdaith Southgate, Hunts Bay a Phwll Du
Crwydrwch glogwyni a dyffrynnoedd coediog arfordir De Gŵyr ar y daith gerdded heriol hon. Ymysg yr uchafbwyntiau mae caer o oes yr haearn a thoreth o blanhigion prin.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.
Siopa yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yw lleoliad un o’n siopau mwyaf arbennig. Gyda golygfeydd godidog o 3 milltir o dywod euraid, mae’n wirioneddol unigryw. Ac mae digonedd o ddanteithion lleol i’w mwynhau. Mae gennym hefyd lond y lle o eitemau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dydd.
Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.