
Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Dysgwch sut y gallwch wneud gwahaniaeth a chwrdd â phobl newydd drwy wirfoddoli yn un o’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt yng Nghymru. O dai hanesyddol i fynyddoedd ac arfordiroedd, mae llawer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan.
O’r tŷ hanesyddol i’r ardd furiog o’r 18fed ganrif a’r parcdir, mae amrywiaeth eang o swyddi i wirfoddolwyr yn nhîm cyfeillgar Erddig.

Manteisiwch ar gyfle newydd fel gwirfoddolwr ym Mhlas Newydd a dewch yn aelod gwerthfawr o’r tîm.

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o dîm Castell Penrhyn. Maent yn cefnogi’r gwaith cynnal a chadw ac yn croesawu ymwelwyr i’r castell bob dydd. Os ydych chi’n berson brwdfrydig ac ymroddedig pam ddim ymuno hefo’r tîm arbennig?

Ymunwch â’n tîm gwych o wirfoddolwyr yng Nghastell y Waun yng Nghymru.

Mae gwirfoddolwyr yn Llanerchaeron yn chwarae rôl bwysig yn gofalu am y fila a’r gerddi ac yn cynnig profiad i’w gofio i ymwelwyr.

Yn chwilio am ffordd wych o dreulio eich amser sbâr, cyfarfod pobl newydd, a gwneud gwahaniaeth? Dysgwch ragor am gyfleoedd i wirfoddoli yng Nghastell Powis yng Nghymru.

Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr i helpu gyda’r gwahanol ardaloedd o’r ardd rydym yn gofalu amdanynt, sy’n golygu bod digon o rolau diddorol i’w hystyried.

Mae ‘na lawer o gyfleoedd i wirfoddoli ym Mannau Brycheiniog. Gallwch gyfarch ymwelwyr ym maes parcio Pont ar Daf neu ymuno â’r Tîm Llwybrau a helpu’r ceidwaid i drwsio llwybrau troed ucheldirol.

Gwirfoddolwch yn Nhŷ Tredegar a chwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau newydd a chael profiadau newydd mewn amrywiaeth o rolau – yn amrywio o groesawydd tŷ i geidwad parc.

Dysgwch sut y gallwch gyfrannu yng Ngerddi Dyffryn a chael golwg ar y gwahanol gyfleoedd sydd ar gael.

Mae’r llwybrau troed sy’n cris-croesi Pen y Fan, Bannau Brycheiniog yn dioddef o erydiad ac yn cael eu cynnal gan dîm o geidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gwirfoddolwyr gan ddefnyddio technegau traddodiadol.


Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.