Taith Lawrenni
I fyny’r afon o borthladd prysur Aberdaugleddau mae ‘na fyd dirgel o gymoedd coediog a foddwyd ar ddiwedd yr Oes Iâ, gydag ehangder o forfeydd heli a thir lleidiog. Bydd y gylchdaith arfordirol hon sydd â golygfeydd hyfryd yn eich tywys drwy goedwig dderw hynafol Lawrenni â’i llethrau serth, uwchben prif afon y Daugleddau ac ar hyd ffosydd llanw Garron Pill a’r afon Cresswell. Dyma daith wych i’w dilyn mewn unrhyw dymor.

Dechrau:
Cei Lawrenni, cyf grid: SN015065
1
O Gei Lawrenni trowch i’r chwith, gan fynd heibio’r ‘Quayside Tea-room’ ar eich llaw chwith. Dilynwch arwyddion y llwybr drwy’r iard gychod ac i’r coed, heibio’r maes carafanau ar eich llaw dde. Ewch dros stigill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i mewn i’r goedwig hynafol. Mae’r llwybr yn gwau ei ffordd drwy’r coed derw cnotiog, gydag ambell gip o’r afon islaw.
2
Yn y gwanwyn, chwiliwch a gwrandewch am y tingoch, aderyn sy’n nythu mewn hen goedwigoedd derw. Mae nifer fechan o goed cerddinen bach yn tyfu hwnt ac yma islaw’r llwybr, sy’n nodi bod hon yn goedlan hynafol.
Coedwig Lawrenni
Mae’r coed hynafol o amgylch Lawrenni yn cynnig digon o leoedd nythu i adar sy’n nythu mewn tyllau, o’r tingoch a’r titw tomos las i’r jac-y-do a’r dylluan frech. Ymhell oddi tanoch mae dyfroedd y Daugleddau i’w gweld drwy fylchau yn y coed ar ochr y llwybr.
3
Mae’r llwybr yn troi’n raddol tua’r dde, heibio cwt Sgowtiaid. Mae cornel y goedwig yn lle da i edrych draw ar y darnau lleidiog gyferbyn. Ar draws yr afon fe welwch chi bentref Llangwm i’r gogledd orllewin.
4
Ar ôl 545 llath (500m) mae’r llwybr yn mynd i lawr at lannau Garron Pill ac yn mynd ymlaen ar hyd llinell y penllanw. Mae coed derw hynafol, â’u gwreiddiau wedi eu dadorchuddio’n rhannol gan y llanw, yn tyfu ar y glannau. Ar adeg y distyll (llanw isel) mae adar y glannau’n bwydo yn y mwd yn y ffosydd dwfn.
Garron Pill
Cilfach lanwol yw Garron Pill ac mae’n llecyn da ar gyfer adar yr aber, fel y chwiwell, y pibydd coeswyrdd, y gylfinir a’r crëyr bach.
5
Ar ôl ymuno â’r hewl cerddwch lan y rhiw at bentref Lawrenni. Pasiwch yr hostel ieuenctid ar eich llaw dde cyn mynd i lawr i ganol y pentref a’r eglwys.
6
Cadwch i’r dde drwy’r pentref i ail-ymuno â’r hewl i Gei Lawrenni.
7
Gyda choed o bobtu’r ffordd unwaith eto – coed llydanddail cymysg erbyn hyn - dychwelwch i Gei Lawrenni.
8
Edrychwch dros y darnau llaid (neu ddŵr, yn dibynnu ar gyflwr y llanw) tuag at West Williamston yn y dwyrain. Mae system o gilfachau bach creigiog yn arwain lawr at forfa heli a llaid.
Coedwig a morfa heli
O bwynt 7 ar y daith fe welwch chi goedwig a morfa heli’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn West Williamston ar draws yr afon Cresswell. Ar un pryd cloddiwyd calchfaen o’r sianeli llanwol yma. Mae llawer o adar dŵr ac adar y glannau ar yr aber ac yn yr hydref efallai y cewch gipolwg ar walch y pysgod yn hela’r hyrddyn llwyd.
Diwedd:
Cei Lawrenni, cyf grid: SN015065