Mae’r tŷ gwydr, sydd wedi’i rannu’n dair, dan ei sang â rhyfeddodau arallfydol. Dewch ar antur drwy’r anialwch a choedwig law ac i weld ein gwinwydd-dy gwych.
Roedd Reginald Cory yn byw yn Nyffryn ac yn blanhigiwr brwd. Mae’r gerddi hyd heddiw yn llawn rhywogaethau sydd wedi’u casglu o bob cwr o’r byd.
Gan lynu wrth ysbryd yr anturiaethwr hwn, mae ein tai gwydr yn gartref i’n sbesimenau mwy egsotig sydd wedi arfer â hinsawdd gynhesach.
Mae’r tŷ tegeirianau yn cynnwys rhai sbesimenau prin ac arbennig o anarferol, megis
- Bromeliad
- Ensete ventricosum montbeliardii
- Costus barbatus
- Aechmea Fasciata
- Cattleya bowringiana
Mae gennym dros 30 o rywogaethau gwahanol o gacti a phlanhigion suddlon, gan gynnwys
- Zygosicyos tripatitus
- Agafe
- Alws
- Pilosocereus palmeri
- Ferocactus pilosos