Dewch i ymweld â’n gardd Eidalaidd
Ry’n ni wedi troi rhan o’r ardd gegin uchaf yn llain llysiau Eidalaidd. Mae pob un o’r llysiau yma i’w gweld mewn prydau Eidalaidd. Mae yma blanhigyn wy, tomato, ffa a blodfresych porffor - a cymrwch olwg yn ein sied i gael naws y lle yn llwyr.
Dilynwch ein llwybr gardd Eidalaidd
Dilynwch y teiliau terracotta o gwmpas yr ardd a cheisiwch sylwi ar nodweddion Eidalaidd y bensaernïaeth, y gerddi, perlysiau a llysiau o fewn yr ystafelloedd gardd.
Ceisiwch ysbrydoliaeth yng Ngardd Pompeii
Adeiladwyd yr ardd hon yn 1909 ac roedd yn rhan o gynllun gwreiddio Mawson. Comisiynwyd hi gan Reginald Cory wedi iddo gael ei ysbrydoli gan deithiau i’r Eidal pan oedd yn ifancach. Gyda’i cholonâd, loggia a ffynnon gallwch weld dylanwad y wlad ar yr ardd.
Blaswch ein cynnyrch yn ein caffi
Mae llawer iawn o’r cynnyrch o’n dwy ardd furiog yn cael ei ddefnyddio yn y prydau yn ein caffi. Gallwch brynu y gweddill yn ein siop. Eleni, bydd rhyw flas bach Eidalaidd i’n prydau, o’r tomato haulsych yn ein caws ar dost i’r gacen gaws blas lemwn Sicily – rhywbeth at ddant pawb.