Caffi’r ardd
Mae Caffi’r Ardd yn swatio ger ffrwd hyfryd Nant Bran, ger yr ardal chwarae i blant. Mae’n cynnig dewis blasus o gacennau a phrydau poeth.
Wedi’i leoli cyn y pwynt talu, mae’n lle delfrydol i fwynhau tamaid neu bryd o fwyd ar ôl mynd am dro o amgylch y gerddi. Mae gennym amrywiaeth o opsiynau di-glwten (GF) hefyd sy’n newid gyda’r tymhorau. Gofynnwch i’n tîm arlwyo cyfeillgar am ragor o wybodaeth.
Yr Oriel
Ger Tŷ Dyffryn, gallwch fwynhau diodydd poeth ac oer, cacennau a thamaid o fwyd yng nghaffi hamddenol yr Oriel. Tra eich bod chi yno, gallwch edrych am lyfr da yn ein siop llyfrau ail law a mwynhau’r olygfa odidog o’r gerddi drwy’r ffenestri enfawr.
Y bwth bwyd
Mae gennym gaban newydd ger yr ardal chware wyllt, yn cynnig hufen iâ, creision a the a choffi. Rhywbeth i adfer egni’r plantos ar ôl iddynt fod yn chwarae drwy’r dydd!
Cynnyrch heb y milltiroedd
Rydym yn gweithio’n galed i fod yn safle carbon-niwtral. Mae llawer o’r prydau sydd ar ein bwydlen wedi’u gwneud yn defnyddio ffrwythau, llysiau a pherlysiau o Erddi’r Gegin. O salad blodau bwytadwy a sgons betys i gawl ffa gwyrdd, mae gennym amrywiaeth o brydau blasus sy’n newid gyda’r tymhorau.
|