*Awgrymiadau defnyddiol
Rydyn ni’n disgwyl bod yn brysur iawn dros benwythnos y Pasg, ond peidiwch â phoeni, rydyn ni wedi gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau na fydd yn rhaid i chi aros yn rhy hir am eich taflenni helfa a’ch cinio.
Wrth barcio, dilynwch yr arwyddion a chyfarwyddiadau ein tîm. Bydd ein prif faes parcio ger y Ganolfan Ymwelwyr yn cael ei gadw ar gyfer pobl â blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod cymaint o lefydd â phosibl ar gael ar gyfer y bobl sydd eu hangen fwyaf.
Mae gennym gaffi hyfryd yn cynnig diodydd poeth, cacennau, hufen iâ a chinio poeth ac oer, yn ogystal â’r ‘Oriel’ a fydd ar agor yn y gerddi dros y gwyliau. Os oes gennych blant bach nad ydynt yn rhy hoff o aros mewn ciw, dewch â phicnic a blanced. Mae croeso i chi fwynhau tamaid i’w fwyta unrhyw le yn ein gerddi.
Mae Helfa Wyau Cadbury ar hyd llwybr sy’n addas i gadeiriau olwyn a phramiau.
Bydd gennym rai gwobrau nad ydynt yn cynnwys siocled ar gyfer plant sydd methu bwyta siocled.
Os byddwch yn gorffen y daith ar ôl 3:30pm, gallwch gasglu eich gwobr o’r Ganolfan