Skip to content

Ble i weld cennin Pedr yng Nghymru

Menyw a phlentyn yn edrych ar y cennin Pedr yn yr ardd yng Nghastell Powis ym Mhowys, Cymru
Ymwelwyr yn edmygu’r cennin Pedr yng Nghastell Powis | © National Trust Images/Paul Harris

Wrth i ddiwrnodau oer, tywyll y gaeaf ddirwyn i ben, mae ein hemblem cenedlaethol yn blodeuo ledled Cymru, gan lonni’r dirwedd a dathlu dyfodiad y gwanwyn. Darganfyddwch yr arddangosfeydd cennin Pedr gorau o fis Chwefror i ddechrau Mai yn y gerddi rydym yn gofalu amdanynt ym mhob cwr o’r wlad.

Emblem cenedlaethol Cymru

Mae llawer o straeon am sut daeth y genhinen Bedr yn un o symbolau enwocaf Cymru, ond yn ôl y sôn dechreuodd popeth gyda’r genhinen ddiymhongar. Mewn brwydr, dywedodd Dewi, nawddsant Cymru, wrth ei filwyr am wisgo cenhinen i’w galluogi i wahaniaethu rhwng ei gilydd â’u gelynion, y Sacsoniaid.

Heddiw, mae’r ddau emblem yn cael eu gwisgo ar Ddydd Gŵyl Dewi ar Fawrth y 1af.

Ble i weld cennin Pedr yng Ngogledd Cymru

Golygfa o gennin Pedr yn y ddôl gyda’r tŷ yn y cefndir yng Ngardd Bodnant yng Nghonwy, Gogledd Cymru
Dôl y cennin Pedr yng Ngardd Bodnant, Gogledd Cymru | © National Trust Images/Derek Hatton
Gardd Bodnant, Conwy
Mae cenedlaethau o arddwyr wedi bod yn plannu cennin Pedr ym Modnant ers 1920, ac rydym yn dal i ychwanegu at yr arddangosfa heddiw. Mor gynnar â mis Ionawr, mae’r narsisws ‘Cedric Morris’ a’r Narcissus cyclamineus, neu’r genhinen Bedr atblygol, i’w gweld yng Ngardd y Gaeaf. Yna ym mis Mawrth a mis Ebrill, mae dôl yr Hen Barc a’r Glennydd yn fôr o felyn wrth i’r Narcissus pseudonarcissus cyffredin a llawer o fathau eraill flodeuo.Ymwelwch â Gardd Bodnant
Neuadd a Gardd Erddig, Wrecsam
Darganfyddwch arddangosfeydd hyfryd o gennin Pedr yn yr ardd restredig Gradd 1 hon sy’n dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif ac sydd wedi’i hadfer yn llwyr. Dilynwch lwybr yr ardd tuag at y borderi ffurfiol neu crwydrwch ymysg y coed afalau a’r coed siâp côn i fwynhau arogl unigryw y rhywogaeth llygad y ffesant, ‘Narcissus poeticus’, sy’n blodeuo’n hwyr. I weld sioe fendigedig o flodau melyn, ewch ar hyd lan y gamlas yn yr ardd a chewch weld y blodau yn plygu yn yr awel a’u hadlewyrchiadau i’w gweld yn y dŵr.Dewch i Erddig
Castell Penrhyn, Gwynedd
Mae’r cennin Pedr cyntaf yng Nghastell Penrhyn yn aml yn dangos eu pennau ar ddiwedd Chwefror, mewn da bryd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Yna maent yn mynd o nerth i nerth – maen nhw ar eu hanterth o ganol Mawrth i ddiwedd Ebrill. Mae’r carped campus o felyn - mor ddramatig â’r castell Cymreig ei hun - yn gorchuddio pob twll a chornel o’r ardaloedd coediog o flaen ac i ochr y castell, yn ogystal ag o flaen y Gorthwr.Ymwelwch â Chastell Penrhyn
Tŷ a Gardd Plas Newydd, Ynys Môn
Yn fuan wedi’r eirlysiau y disgwylir i gennin Pedr roi sioe hyfryd yn yr ardd, yr ardd goed a’r parcdir hudolus ym Mhlas Newydd. Yn edrych dros y Fenai, fe welwch glystyrau o gennin Pedr melyn yn dawnsio o dan heulwen y gwanwyn ac wedi’u gosod hwnt ac yma o gwmpas yr ardd, gan ychwanegu lliw bywiog i’r ardd ffurfiol a’r borderi o flodau. Mae disgwyl i'r cennin Pedr fod ar eu gorau tua chanol mis Mawrth.Dewch i Dŷ a Gardd Plas Newydd

Ble i weld cennin Pedr yng Nghanolbarth Cymru

Golygfa o gennin Pedr yn yr ardd gyda Chastell Powis ar y bryn yn y cefndir ym Mhowys, Canolbarth Cymru.
Cennin Pedr yn eu blodau yng Nghastell Powis, Canolbarth Cymru | © National Trust Images/Paul Harris
LLanerchaeron, Ceredigion
Rhowch groeso i’r gwanwyn yn Llanerchaeron lle mae cennin Pedr gwyllt llachar yn gorchuddio’r coetir ger yr afon ac yn amgylchynu’r Lawnt Croce o flaen y Fila. Fe welwch fwy fyth yn britho’r Ardd Iseldiraidd a’r Ardd Furiog hefyd, lle bydd yr arogl jasmin cyfoethog, hyfryd yn eich dilyn o’r tŷ gwydr ar eich taith.Ymwelwch â Llanerchaeron
Castell a Gardd Powis, Powys
Mae gerddi teras Baróc Castell Powis a’i leoliad trawiadol ar ben bryn yn hynod ddramatig. Cewch fwynhau golygfeydd ysgubol ar draws Cwm Hafren wrth gofleidio’r gwanwyn. O ganol Mawrth hyd ddiwedd Ebrill, mae Narcissus pseudonarcissus, neu gennin Pedr gwyllt, yn blodeuo yn eu miloedd yn y Cae Cennin Pedr (sy’n enw addas iawn). Mae fioledau, magnolia, tiwlipau a’r sosin bach glas hefyd yn fôr o liw dros weddill yr ardd.Ymwelwch â Chastell a Gardd Powis

Ble i weld cennin Pedr yn Ne Cymru

Golygfa o’r tŷ drwy gennin Pedr yng Ngerddi Dyffryn ger Caerdydd yn Ne Cymru
Cennin Pedr yng Ngerddi Dyffryn, De Cymru | © National Trust Images/Rachael Warren
Gardd Goedwig Colby, Sir Benfro
Cadwch olwg am garpedi gwych o gennin Pedr ar draws y ddôl a bancyn y ddôl yng Ngardd Goedwig Colby. Yn 2011 a 2015, plannwyd 6,000 o fylbiau cennin Pedr yn yr ardd furiog a’r coetir hyfryd, felly gallwch ddisgwyl arddangosfa arbennig o ddiwedd fis Chwefror. Daw’r gwanwyn â môr o glychau’r gog a chrocysau hefyd, gyda blancedi o gamelias, asalêu a rhododendronau i ddilyn.Ymwelwch â Gardd Goedwig Colby
Gerddi Dyffryn, Caerdydd
Mae dros 50 o wahanol fathau o gennin Pedr yn pefrio ar lawntiau ac gardd-ystafelloedd Gerddi Dyffryn. O’r Narcissus bulbocodium, neu’r genhinen Bedr gylchog fechan, yn yr Ardd Gerrig i’r mathau ‘sioe’ melyn, gwyn a hufen mawr, does unman gwell i gofleidio’r gwanwyn. A pheidiwch â methu eu brîd eu hunain o genhinen Bedr: Narsisws ‘Dyffryn’, a enillodd statws rhyngwladol fel brîd newydd yn 2014.Ymwelwch â Gerddi Dyffryn
Tŷ Tredegar, Casnewydd
Ewch drwy’r giatiau i Ardd y Berllan a Gardd y Gedrwydden i weld lluoedd o gennin Pedr melyn o dan goed blodau. Uchafbwynt arbennig yn ystod y gwanwyn yw’r cennin Pedr melyn sy’n blodeuo ar hyd Rhodfa’r Derw ac o amgylch y goeden gastan, sy’n 250 mlwydd oed, yn y parcdir o ganol mis Mawrth.Dewch i Dŷ Tredegar
Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Blodau coed ceirios ar ddiwedd y daith gerdded coed yw yn yr ardd yn Erddig

Gerddi a pharciau yng Nghymru 

Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.

Golygfa o wedd ogledd-ddwyreiniol Tŷ Tredegar ar ddiwrnod heulog

Tai ac adeiladau yng Nghymru 

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Tu allan i Gastell Penrhyn ar ddiwrnod braf

Cestyll a chaerau yng Nghymru 

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

Walkers admire the view across Llyn Ogwen to the Cwm Idwal Valley on a sunny day, with a body of water visible in the valley and mountains in the distance

Cefn gwlad a choetir yng Nghymru 

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.