Y ddogfen gynharaf sy’n cofnodi’r ardd yw’r map degwm o 1844. Mae’r map hwn yn dangos bod yr ardd, yn y cyfnod hwnnw, wedi ei threfnu yn y dull Fictoraidd – mewn cyferbyniad â chymeriad anffurfiol yr ardd bresennol.
Y cyfnod gwyllt
Cyn i'r chwiorydd Keating symud i mewn, roedd yr ardd wedi tyfu'n hollol wyllt, gyda chymaint o fieri'n gorchuddio'r drws ffrynt fel y bu'n rhaid iddyn nhw ddringo i mewn drwy'r ffenestr flaen.
Dyma oedd disgrifiad Syr Clough Williams-Ellis o'r ardd: “Jyngl o ffiwsias, ffigys ac asaleas yn eu blodau”.
Y gwaith adfer
Yn anffodus, ni wnaeth y chwiorydd Keating gadw llawer o nodiadau nac unrhyw ddyddiadur am eu gwaith yn yr ardd. Ac eithrio hwn gan Honora, a ysgrifennwyd mewn pensil ar hen gatalogau planhigion: