Yr Hydref
Mae tri eucryphia gosgeiddig yn amlwg iawn yn yr ardd drwy gydol mis Medi, a'u blodau gwynion yn ferw o wenyn. Mae codennau ffrwythau’r Magnolia (campbellii mollicomata), sy’n debyg i chillies, yr un mor ddeniadol â'r blodau sy’n ymddangos yn y gwanwyn.
Wrth i'r diwrnodau ddechrau byrhau, mae lliwiau tanllyd y coetir yn gefnlen hardd.
Ewch i weld ein perllan gyda'i thoreth o ffrwythau gwahanol - pob un yn frodorol i Gymru. Yn eu plith mae coed afal enwog Enlli.
Y Gaeaf
Wrth i'r dail syrthio, byddwch yn barod i gael eich syfrdanu gan y golygfeydd anhygoel o'r arfordir.
Mae'r ardd yn parhau i swyno drwy gydol misoedd noethlwm y gaeaf, gyda'r bocs Nadolig a'r Gollen ystwyth (‘Witch Hazel’)yn trwytho'r ardd â'u persawr. Mae palfau’r arth (Hellebore), aconitau'r gaeaf, a brigau coch y cwyros yn cynnig amrywiaeth o liwiau.
Mae'r sioe syfrdanol o eirlysiau yn arwydd cyntaf bod y gwanwyn ar y ffordd ac mae’n werth ei gweld. Mae’r blodau bychain hyn yn ffurfio carped gwyn gloyw ar lawr y goedwig ac yn llenwi'r ardd – dyma olygfa sy’n codi calon ar ddiwedd misoedd y gaeaf!
Digwyddiadau
Mae digon o ddigwyddiadau ym Mhlas yn Rhiw drwy gydol y flwyddyn. Yn eu plith mae teithiau cerdded tymhorol gyda'r garddwr, lle cewch ddysgu mwy am hanes yr ardd a'r stad, y planhigion sy'n gwneud yr ardd mor unigryw, ynghyd ag awgrymiadau a chyngor ynglŷn â garddio.
Trefnir digwyddiadau bywyd gwyllt hefyd, lle bydd cyfle i ddarganfod pa greaduriaid bach a llai fyth sy'n byw yng ngardd Plas yn Rhiw.
Er bod Plas yn Rhiw ar gau rhwng Tachwedd a Mawrth, rydym yn agor ar ddiwrnodau penodol fel y gallwch wneud y gorau o'r ardd.