Perllan a dôl ym Mhlas yn Rhiw

View of Mynydd Rhiw apple trees and meadow at Plas yn Rhiw, Gwynedd

Bu cryn dipyn o newid mewn cornel dawel ym Mhlas yn Rhiw. Lle bu defaid yn pori, mae ’na gasgliad o goed ffrwythau cynhenid a dôl ir, yn llawn lliwiau, arogl blodau a grwnan gwenyn.

Gwraidd y prosiect

Yn ôl yn 2010, aeth garddwr Plas yn Rhiw ati i ymchwilio i goed ffrwythau Cymreig a’u rhestru, gan wneud cynllun ar gyfer y datblygiad newydd.

Y flwyddyn wedyn, gyda chymorth yr ysgol uwchradd leol, Ysgol Botwnnog, plannwyd dros 140 o goed, yn cynnwys coed afalau, eirin, gellyg a cheirios.

Ar y pryd, hwn oedd y casgliad mwyaf yn y byd, hyd y gwyddem, o goed ffrwythau Cymreig. Mae troi cae cyffredin yn berllan wedi golygu newid mawr iawn mewn cyfnod cymharol fyr.

Creu dôl

Caiff y berllan ei rheoli fel dôl neu weirglodd hefyd, a byddwn yn lladd y gwair â pheiriant ffustio Ryetec ddiwedd Awst neu ddechrau Medi, ar ôl i’r hadau gael cyfle i wasgaru a setlo. Ar ôl ei dorri, caiff y gwair ei gludo oddi yno fel bod lefelau’r maethynnau yn y pridd yn gostwng dros amser, sy’n addas ar gyfer llawer o flodau gwylltion. 

Y peiriant Ryetec yn lladd y gwair ddiwedd haf
Tractor a peiriant ryetec yn torri gwair yn berllan Plas yn Rhiw, Gwynedd
Y peiriant Ryetec yn lladd y gwair ddiwedd haf

Planhigyn allweddol

Mae’r gribell felen yn chwarae rhan bwysig yn creu dolydd – mae’n lled-barasitig ac yn gwanhau’r glaswelltydd gan ei gwneud yn haws i flodau gwylltion ffynnu. 

Bu Ysgol Crud y Werin, sy’n ysgol gynradd leol, yn ein helpu i gasglu hadau’r gribell felen o gaeau un o’n tenantiaid, i’w gwasgaru’n glystyrau trwy’r berllan i gyd. Mae’r gribell felen wedi ymsefydlu’n dda iawn gan ymledu dros y safle cyfan. Pan fydd yr hadau’n aeddfed, fe glywch chi sŵn clecian wrth i chi gerdded rhwng y coed afalau a dyma sy’n rhoi i’r planhigyn ei enw Saesneg, ‘yellow rattle’.

Dilyn hynt y gwaith

Mae cymaint â 97% o ddolydd wedi dirywio ers yr Ail Ryfel Byd. Felly mae’n bwysig ein bod yn manteisio ar bob cyfle i ailgyflwyno ac adfer y cynefin hwn sydd mor hoff gan fywyd gwyllt.

Bob mis Gorffennaf, rydym yn cynnal arolwg o’r tir glas i weld sut mae’n datblygu ac a yw’r dulliau rheoli’n gweithio. Mae’r arolygon yn dangos cynnydd sylweddol mewn blodau gwylltion a rhywogaethau blodeuol o'u cymharu â'r glaswelltydd. 

Sylwodd gwenynwr lleol ar hyn a gweld ei fod yn llecyn delfrydol iddo osod rhai o’i gychod gwenyn. Erbyn hyn maent yn ychwanegiad diddorol i’r safle.  Bu’r gwenyn yn help mawr gyda’r peillio, sy’n golygu bod coed afalau gweddol ifanc wedi rhoi cnydau da.

Dosbarth awyr agored

Mae ysgolion a grwpiau wrth eu bodd yn dod i gynnal gweithgareddau yn y berllan am fod modd dysgu am gymaint o bynciau yma: o’r broses beillio i helfeydd bwystfilod bach, o gadwyni bwyd i gelfyddyd wyllt.

Disgyblion o Ysgol Crud y Werin yn edrych ar Blas yn Rhiw trwy lygaid gwenynen wrth chwarae’r gêm beillio
Disgyblion o Ysgol Crud y Werin yn chwarae gêm beillio yn berllan Plas yn Rhiw, Gwynedd
Disgyblion o Ysgol Crud y Werin yn edrych ar Blas yn Rhiw trwy lygaid gwenynen wrth chwarae’r gêm beillio

Mae’n hyfryd ymweld â’r llecyn cudd hwn, i ryfeddu at y coed ffrwythau yn eu blodau yn y gwanwyn, i ymlacio wrth fwynhau’r blodau gwylltion a’r gloynnod byw yn yr haf neu i brofi afal yn yr hydref.