Trigolion Plas yn Rhiw a’r gwaith adfer

Dewch i ddysgu mwy am hanes Plas yn Rhiw, o’i darddiad fel tŷ yn yr 17eg ganrif i’w ddatblygiad fel maenordy dymunol yn y 19eg. Cewch ddysgu hefyd am straeon y bobl a fu’n byw yma dros y blynyddoedd.

Y perchnogion cynnar

Adeiladwyd y tŷ yn yr 17eg ganrif ar gyfer John Lewis; roedd ei deulu'n ddisgynyddion i Frenin Powys yn y nawfed ganrif, ac roeddent wedi bod yn Rhiw ers cyfnod y Tuduriaid.

Cafodd y tŷ ei drosglwyddo drwy'r teulu i Jane Lewis, a briododd â William Williams, a ddaeth wedyn yn berchennog Plas yn Rhiw ym 1811. Priododd eu merch â'r Capten Lewis Moore Bennet, ac fel y digwyddai'n aml, oherwydd eu priodas, aeth hwn ati i ail-lunio ac estyn y tŷ ym 1820.

Fedrwch chi weld y newidiadau ar hyd y blynyddoedd yn y gegin?
Y Tŷ ym Mhlas yn Rhiw, Penrhyn Llŷn

Ychwanegwyd adain ogleddol y gegin yng nghanol y 19eg ganrif ac arhosodd y stad yn y teulu tan 1874, pan gafodd ei phrynu gan Thomas Roberts a'i gosod i gyfres o denantiaid. Roedd yr Arglwyddes Strickland yn un o'r rhain, ac mae'n bosibl mai hithau osododd yr ardd.

Yn ddiweddarach, trosglwyddwyd Plas yn Rhiw i fab Mr Roberts ac ymhen amser cafodd ei adael yn wag.

Y Chwiorydd Keating

Ym 1939, daeth Plas yn Rhiw i feddiant y chwiorydd Keating. Roedd yr adeilad yn dipyn o adfail erbyn hynny, ond yn raddol, drwy eu hymdrechion selog, cafodd yr Plas ei adfer. Ail-grewyd yr ardd nodedig, a buodd y dair chwaer yn ymgyrchu'n ddiflino i ddiogelu'r amgylchedd.

Yn wreiddiol o Nottingham, roedd Eileen, Lorna a Honora'n dair chwaer ddi-briod a ddaeth gyda'u mam weddw Constance i fyw ym Mhlas yn Rhiw ym 1939.

Roedd y chwiorydd Keating yn frwd dros gefnogi Cyngor Diogelu Cymru Wledig a mudiadau cadwraeth eraill. Buont yn ymgyrchu'n ddygn i wrthwynebu rhai cynlluniau, yn enwedig y bwriad in adeiladu gorsaf ynni niwclear yn Edern.

I bawb, am byth

Yn 1946, rhoddodd y chwiorydd y tir o gylch Plas yn Rhiw i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol er cof am eu rhieni, Constance a William Keating. Yn ddiweddarach, yn 1952, rhoddodd y chwiorydd Keating weddill y meddiant i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Agorodd y chwiorydd y tŷ i'r cyhoedd (cyn iddo fod yn ein meddiant ninnau), ac fe fuon nhw’n byw yno hyd nes i Lorna farw yn 1981.

Nid yw Plas yn Rhiw wedi newid hyd heddiw. Mae’n teimlo fel pe bai'r chwiorydd yn dal i fyw yno.  Cofiwch chwilio am y garreg ddyddiad ar flaen y tŷ, gyda ‘1634 IL’ wedi ei cherfio arni.

Byddwch yn siwr o weld y llechen hon sy’n coffáu’r teulu Keating ym Mhlas yn Rhiw
Byddwch yn siwr o weld y llechen hon sy’n coffáu’r teulu Keating ym Mhlas yn Rhiw