I ble y gall fy nghi fynd?
Mae croeso i gŵn archwilio llwybrau'r coetir isaf (y tu ôl i'r dderbynfa ymwelwyr a'r toiledau) ar dennyn byr. Mae croeso iddyn nhw hefyd yng nghwrt yr ystafell de ar dennyn.
I ble na all fy nghi fynd?
Cŵn cymorth yn unig yn y brif ardd, coetir uchaf, perllan a thŷ.
Beth sydd angen i mi fod yn ymwybodol ohono yn Blas yn Rhiw?
Er mwyn sicrhau bod pawb yn cael diwrnod pleserus, dilynwch ein Cod Cŵn:
• Cofiwch cadw cŵn ar dennyn: helpwch i sicrhau na fydd cŵn yn aflonyddu ar fywyd gwyllt trwy eu cadw ar dennyn.
• Codwch baw cŵn: ei fagio a'i roi yn y bin er mwyn cadw eich hoff lefydd yn brydferth.
• Am fwy o wybodaeth edrychwch ar y arwyddion a chymerwch ofal arbennig ar lwybrau ger y clogwyni.
• Byddwch yn ystyrlon: nid yw pawb yn hoff o gŵn, felly cadwch nhw'n agos atoch.
Cyfleusterau ar gael ar gyfer fy nghi:
Mae bowlenni dŵr ar gael y tu allan i'r dderbynfa ymwelwyr a'r cwrt ystafell de. Mae un bin cŵn ar y safle, wedi'i leoli ar ddechrau'r llwybrau coetir isaf (ychydig ar ôl y bloc toiledau).