Taith gerdded y sarff, y syrffwyr a’r sgerbwd llong
Ymunwch â’n taith gylch, heibio i siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ar hyd un o draethau gorau Cymru gan fwynhau’r golygfeydd hyfryd ar hyd y ffordd.

Dechrau:
Rhosili, cyfeirnod grid: SS413881
1
Gyda’ch cefn at yr arhosfan bws, trowch i’r dde a cherdded ar hyd y ffordd gan fynd yn eich blaen rhwng y maes parcio a Gwesty’r Worms Head. Mae siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ychydig yn bellach lawr ar y chwith.
2
Mae siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn un o hen fythynnod gwylwyr y glannau. Bu’r llanw nerthol a symudiad y tywod yn gyfrifol am sawl llongddrylliad. Mae gweddillion yr Helvetia I’w gweld hyd heddiw ar draeth Rhosili pan fydd y llanw’n isel.
Bae Rhosili
Yn un o draethau gorau Cymru, mae Rhosili yn hafan i bobl sydd am fwynhau’r arfordir - drwy gerdded, syrffio neu adeiladu cestyll tywod.
3
Daliwch i ddilyn y llwybr drwy’r gât sydd ar y llwybr gwastad.
4
Ar ochr dde’r llwybr mae cyfres o dwmpathau. Dyma olion caer o Oes yr Haearn. Mae golygfeydd godidog o’r fan hon ac felly gallai trigolion y gaer weld eu gelynion am filltiroedd i bob cyfeiriad.
5
Wrth i chi barhau ar hyd y llwybr gwastad fe welwch chi gaeau a chloddiau sy’n rhan o system o gaeau agored, cul o’r Canol Oesoedd. Y Normaniaid a gyflwynodd y system hon o ffermio yn y 12fed ganrif.
6
Pan fydd y trac yn troi yn sydyn i’r chwith, cerddwch yn syth ymlaen gan ddilyn y llwybr llydan drwy’r gwair at adeilad gwylwyr y glannau. Yma cewch olygfa wych o Ben Pyrod.
Pen Pyrod
Daw’r enw Saesneg ‘Worm’s Head’ o’r gair Llychlynnaidd ‘Wurm’ sy’n golygu sarff neu ddraig.
7
Codwyd adeilad gwylwyr y glannau yn Oes Fictoria a gwirfoddolwyr sy’n gweithio yma heddiw.
8
Unwaith i chi gyrraedd adeilad gwylwyr y glannau, gallwch ddewis naill ai i groesi draw i’r ynys neu fynd nôl i’r dechrau ar hyd yr un llwybr a ddilynoch i gyrraedd yma.
Cyrraedd Pen Pyrod
Mae Pen Pyrod yn ynys lanw, a dim ond am rhyw ddwy awr a hanner cyn ac wedi’r llanw isaf y gellir cerdded ato. Mae amserau’r llanw ar gael o adeilad gwylwyr y glannau a gellir cael cyngor yma hefyd am yr amser gorau i groesi.
Diwedd:
Rhosili, cyfeirnod grid: SS413881