Cwpwrdd meddyginiaeth y Tuduriaid
I’r ardd y byddai’r Tuduriaid yn mynd gyntaf pan oedden nhw’n teimlo’n anhwylus. Roedd perlysiau meddyginiaethol yn cael eu llyncu a’u rhoi ar y croen, mewn amrywiaeth o ffurfiau ac yn aml gyda pherlysiau eraill mewn dognau wedi’u mesur yn ofalus. Mae gwyddoniaeth fodern wedi canfod bod rhai o’r meddyginiaethau hyn yn effeithiol. Byddai meddyginiaethau eraill wedi yn ymddangos yn llwyddiannus, er y byddai’r claf siŵr o fod wedi gwella heb ddefnyddio’r perlysieuyn. Roedd rhai eraill yn hynod wenwynig a gallai’r sawl â’u cymerodd fod wedi marw.
Perlysiau ar gyfer carpedi
Byddai Tŷ Mawr wedi bod yn fferm brysur iawn. Byddai’r brif ystafell fyw wedi bod yn gymysgedd o fwg o’r tân, arogleuon coginio, arogleuon anifeiliaid a llawer o arogleuon eraill o fywyd bob dydd yn y cyfnod. Cyn i’r llawr cerrig gael ei osod, mae’n debyg y byddai’r llawr yn Nhŷ Mawr wedi bod yn llawr pridd wedi cael ei guro ac wedi ei baentio gyda chasein, sy’n dod o laeth, ac sydd ag arogl reit sur pan mae’n wlyb.
Roedd pobl yn gorchuddio’r llawr gyda brwyn neu gyrs (neu fatiau wedi eu gwau o frwyn neu gyrs), a oedd yn cael eu gorchuddio gyda pherlysiau pêr fel lafant, mintys y graig, tansi, erwain a rhuw. Roedd y perlysiau hyn yn helpu cuddio arogleuon drwg, ac roedd llawer ohonyn nhw hefyd yn helpu rheoli chwain, pryfed eraill a bacteria.
Perlysiau lliwio
Roedd perlysiau lliwio yn cael eu defnyddio i liwio defnyddiau. Roedd gwreiddiau llysiau'r-gwrid (Anchusa officinalis) yn cynhyrchu lliw coch, roedd codau hadau llysiau lliw (Isatis tinctoria) yn rhoi lliw glas a’r melengu wyllt ddi-sawr (Reseda luteola) yn rhoi lliw melyn.
Perlysiau coginio
Roedd perlysiau coginio yn cael eu tyfu i roi blas ar sawsiau a chig ac roeddynt yn cynnwys tafod yr ych, saets, teim, rhosmari, persli a chennin syfi.