
Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Mae’r ysgol wedi cau, a does dim amser gwell i fynd allan i’r awyr agored ar antur gyda’r teulu. P’un a ydych chi’n dilyn llwybr i’r teulu, yn canfod Pokémon, yn gwneud gweithgareddau creadigol, ymarferol neu’n cymryd rhan mewn heriau chwaraeon, mae pob ymweliad yn cynnig rhywbeth gwahanol i’w fwynhau.
Yr haf hwn, mae Pokémon yn mentro i’r awyr agored yng Nghastell y Waun. Darganfyddwch barthau Pokémon newydd sbon, rhowch gynnig ar Gêm Gardiau Masnachu Pokémon, dangoswch eich sgiliau a chasglwch sticeri Mega Evolution. Mewn ardal arall, mwynhewch naws drofannol wrth archwilio mannau chwarae â thywod, wedi’u hamgylchynu gan blanhigion trofannol toreithiog.

Mwynhewch haf o hwyl carnifal hen ffasiwn wrth i chi grwydro llwybr gardd sy’n addas i’r teulu, yn llawn gemau clasurol. Ochr yn ochr â’r llwybr, cewch fod yn greadigol wrth greu mygydau carnifal, cymryd rhan mewn sesiynau celf ymarferol, a phaentio wynebau lliwgar cyn gorffen eich ymweliad yn Ffau’r Blaidd, yr ardal chwarae naturiol. Yma, gall y plantos siglo, cydbwyso, dringo, adeiladu ffeuau a rhoi rhwydd hynt i’w dychymyg am oriau o hwyl yn yr awyr agored.

Mentrwch ar antur fyd-eang yr haf hwn wrth i chi ddilyn y llwybr teulu drwy’r ardd, gan ganfod planhigion rhyfeddol o bob cwr o’r byd. Dewch i gasglu stampiau yn eich pasbort, creu rhwbiadau pres a mwynhau seibiau rhyngweithiol wrth i chi deithio ar draws y cyfandiroedd heb adael gogledd Cymru.

Ymlaciwch yr haf hwn wrth i chi ganfod mannau agored eang yn llawn cyfleoedd am hwyl gyda’r teulu. Cewch grwydro’r pum parth chwarae cyffrous lle cewch herio teulu a ffrindiau i gêm o fadminton, profi eich sgiliau peirianneg yn y parth adeiladu, neu fwynhau llu o gemau awyr agored.

cynnau eich creadigrwydd gyda cherrig cerddi ac îsls braslunio yn yr ardd, neu gamu ar y llwyfan awyr agored gyda golygfeydd godidog ar draws Afon Menai yn gefndir. Fan arall, cewch wisgo i fyny a throelli ymhlith tafluniadau golau’r Ystafell Gerdd wrth i chi berfformio eich fersiwn chi o Ddawns y Glöyn Byw enwog gan Farcwis y Ddawns.

Byddwch yn barod ar gyfer haf yn llawn antur yn yr awyr agored wrth i’r Lawnt Fawr ddod yn chwip o faes chwarae ar gyfer hwyl i’r teulu. P’un a ydych chi’n awyddus i fod yn actif, mwynhau ychydig o gystadleuaeth gyfeillgar neu ymlacio yn yr awyr agored, mae digon o le i bawb fwynhau’r haf wrth eu pwysau eu hunain.

Ddilyn Llwybr y Smyglwyr newydd, cyffrous drwy’r tŷ a’r ystad. Cewch ddatrys cliwiau, datgelu straeon cudd a dysgu mwy am anturiaethau arfordirol a hanes smyglo Ceredigion. Cofiwch am Ddyddiau Llun Adrodd Straeon, lle byddwn yn dod â chwedlau o Gymru’n fyw drwy hanesion difyr am y môr a’r arfordir.

Cewch brofi’r Gêm Ffeirio Cardiau Pokémon, ystwytho eich sgiliau a chasglu sticeri Mega Evolution, yna mentro ar y Llwybr Mega Evolution drwy’r gerddi. Mae’r hwyl yn parhau yn Iard y Stabl, lle byddwch yn gallu ymgolli mewn mymryn o nostalgia glan y môr. Ewch ati i adeiladu cestyll tywod yn y pwll tywod anferthol, crwydro’r cytiau glan y môr lliwgar a mwynhau chwarae dychmygus.

Mae antur yn aros amdanoch yng Ngherddi Dyffryn wrth i Haf o Hwyl ddychwelyd gyda thema newydd sbon, O Amgylch y Byd. Cychwynnwch ar daith o ddarganfod wrth i chi grwydro dau hwb chwarae cyffrous yn llawn gemau gardd enfawr, heriau ar y thema pryfed, gweithgareddau creadigol a hwyl yn yr awyr agored, y cyfan wedi’i ysbrydoli gan deithiau cyn-breswylwyr Tŷ Dyffryn, Reginald a Florence Cory.

Camwch i mewn i Dŷ Newton yr haf hwn, lle mae pob ystafell yn llawn o weithgareddau ymarferol a gosodiadau chwareus wedi’u hysbrydoli gan adar a byd natur. Cewch gwrdd â gwesteion papier-mâché yng Ngwledd yr Adar, dod â straeon yn fyw yn y Theatr Goetir, neu fod yn greadigol wrth greu eich aderyn clai eich hun. Cofiwch alw heibio’r ardal chwarae ‘Triciau Teiars’ newydd yn yr Hen Olchdy, lle gall anturwyr bach ddringo, adeiladu a chydbwyso ar y teiars fyddai wedi cyrraedd y safle tirlenwi fel arall.

Gyda gweithgareddau hwyl a digwyddiadau cyffrous, mae digonedd o ddiwrnodau gwych i’r teulu i’w cael yng Nghymru. Darganfyddwch gestyll crand, cwblhewch weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’, neu llosgwch ychydig o egni mewn ardaloedd chwarae naturiol.

Dysgwch am ein llwybrau aml-ddefnydd yn y mannau rydym yn gofalu amdanynt ledled Cymru sy’n addas ar gyfer pramiau ac yn berffaith ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a’r rhai gyda chymorth symudedd.

Trefnwch y picnic perffaith yng Nghymru a gwledda yn yr awyr iach mewn ystâd fawreddog, ar draeth tlws neu mewn hafan goediog i fywyd gwyllt, gyda golygfeydd godidog o awyr agored Cymru.


Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.