Arwyddion gwanwyn
Yn yr ardd mae arwyddion gwanwyn ym mhob man. Mae rhododendronau a chamelias yn blodeuo a choedwig y gorllewin yn garped o wyrdd yn aros i glychau’r gog cyntaf y flwyddyn agor ymhen ychydig fisoedd.
Mae bylbiau gwanwynol megis cennin Pedr a chrocws yn flodau i gyd a blodau’r gwynt yn gwau drwy’r eirlysiau i greu golygfa odidog wedi gaeaf gwlyb a gwyntog.
Mae’r tywydd yn chwarae ei ran yr wythnos hon hefyd, a’r heulwen braf yn croesawu pobl i Colby. ʼDyw hi ddim cweit yn dywydd crysau-t eto - ond mae’n teimlo fel petai bron yma!