Gardd Goedwig Colby

Mae gardd goedwig Colby yn hafan gwirioneddol i fwynhau bywyd gwyllt, llwybrau braf, blodau syfrdanol a hel hanes.
Lleoliad tangnefeddus
Mae yma wyth erw o fewn dyffryn llonydd, tawel, felly mae digon i’w weld.
Mae’r ddôl o flodau gwyllt yn lle ardderchog i chwilotwyr bach ifanc, gyda’i nentydd troellog a phyllau sy’n gynefin cyfoethog, tra bod llwybrau’r goedwig â’u blodau hardd ar bob llaw yn eich denu i grwydro ym mhob tymor.
Ond ʼdoedd hi ddim bob amser mor heddychlon yma. Mae’r ardd yn ganrifoedd oed, mewn gwirionedd, ac ar un adeg fe fu’n rhan weithredol o faes glofaol. Mae olion caeadon shafftiau pyllau a gweddillion diwydiannol hwnt ac yma yn dyst i’r gorffennol hwnnw.
Beth yw stori gardd y goedwig?
Fe chwaraeodd y safle ran yn niwydiant glo Sir Benfro yn ystod y 1790au pan ddaeth y tirfeddiannwr John Colby yn berchennog arno.
Fe ffynnodd yr ardd yn yr 1870au, pan brynodd fferyllydd o’r enw Samuel Kay y tir a’r tŷ, Colby Lodge. Dechreuodd ar y plannu, ac fe adeiladwyd ar yr etifeddiaeth hon yn y 1920au gan ei ddisgynyddion, a ychwanegodd lynnoedd a mwy o nodweddion garddwriaethol.
Ers hynny, bu nifer o unigolion allweddol yn ystâd Colby, a dechreuodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ofalu am y safle yn niwedd y 1970au.
Yn yr ardd goedwig, rhaid gweld...
- Rhododendrons – Dyma arbenigrwydd Colby ac mae’n nhw’n ffynnu yn y pridd asidig; cadwch lygad am y rhododendrons dail mawr ger pwll y madfallod dŵr a chornel yr hen dderi.
- Bywyd gwyllt – Binociwlars yn barod - mae’r dyffryn yn ferw o bob math o greaduriaid; o adar i chwilod ac ambell ddwrgi.
- Cochwydden Japan – Yn codi 134 troedfedd fry i’r awyr, y gochwydden Siapaneaidd yn Colby yw’r uchaf ym Mhrydain; mae hi gerllaw pwll y madfallod dŵr.
- Olion diwydiant – Mae’r ardd yn llawn o olion oes a fu, gan gynnwys agoriadau i byllau a hen drac pwll sy’n arwain at y traeth.
- Gweld y môr – Dilynwch y llwybr trwy’r goedwig orllewinol ac fe ddewch at y tŷ haf; o’r man hwn ar ddiwrnod clir gallwch weld ymhell dros fae Caerfyrddin at Benrhyn Gŵyr.