Helpu natur
Ac fel hyn ry’n ni am i bethau aros, felly mae ein tîm o arddwyr a gwirfoddolwyr wrthi’n brysur yn sicrhau bod y cynefinoedd mewn cyflwr perffaith drwy’r amser.
Ry’n ni’n gadael i’r gwair ar y ddôl dyfu’n dal, a’i dorri pan fydd y blodau wedi bwrw eu hadau. Oherwydd hyn, mae’n gyfoethog o flodau gwyllt a pili-palod, ac efallai y gwelwch chi lygod y maes, llygod pengrwn a llyffantod.
Ar draws y safle, fe welwch yn aml bentyrrau o foncyffion a choed wedi eu gadael yn y fan lle syrthion nhw. Mae hyn hefyd yn annog bywyd gwyllt ac yn creu cynefin i drychfilod a chorynnod.